Help ar gael i greu a rhannu newyddion digidol y Gymraeg
Dros y chwe mis nesaf fe fydd Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymgyrch i helpu unrhyw un sydd am greu a rhannu newyddion a gwybodaeth amserol yn ddigidol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd pytiau pwrpasol ar gael yn gyson ar ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol poblogaidd megis Facebook a Twitter; gwybodaeth am ddeunyddiau digidol sydd wedi eu creu yn benodol ar gyfer y Gymraeg; a chanllawiau mwy eang ar sut i fynd ati i sefydlu gwefannau a newyddion cymunedol yn Gymraeg.
Dan nawdd Llywodraeth Cymru, fe fyddwn hefyd yn cynnal hyfforddiant am ddim mewn sawl lleoliad ac yn creu pecynnau gam-wrth-gam yn gymorth i newyddiadurwyr cymunedol ac eraill sydd am greu a rhannu eu newyddion yn fwy effeithiol.
Rydym yn awyddus i sicrhau fod gymaint â phosib o bobl yn gwybod am, ac yn defnyddio, yr adnodd newydd ac yn cael cyfle i gael eu hyfforddi a’u mentora – boed yr unigolyn, grwp gwirfoddol neu gorff.
Os oes gennych gysylltiadau o fewn cymunedau Cymraeg rhannwch y tudalennau canlynol i helpu i dyfu iaith Cymraeg ar-lein.
WAMES is looking for Welsh speakers to join our communications team. We will support volunteers who wish to join us, but need training.
Pingback: Learn how to use digital media to raise awareness of ME in Welsh | WAMES (Working for ME in Wales)