Ein gweithgareddau
Ymgyrchoedd
Rydyn ni’n fudiad sy’n ymgyrchu, gan geisio dylanwadu ar ddatblygiad y polisïau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yng Nghymru er budd pawb ag ME a CFS a’u gofalwyr. Rydyn ni hefyd yn ymgyrchu y tu allan i Gymru ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar breswylwyr Cymru.
Rydyn ni’n ymgynghori â phobl ag ME a CFS a’u gofalwyr er mwyn darganfod pryderon allweddol a phenderfynu ar flaenoriaethau.
Ymgynghoriadau
Rydyn ni’n ymateb i ymgynghoriadau dewisedig fydd â goblygiadau i bobl ag ME a CFS a’u gofalwyr. Rydyn ni hefyd yn cymryd rhan mewn arolygon achlysurol ar faterion sy’n berthnasol i’r sector gwirfoddol.
Ymatebion WAMES i ymgynghoriadau
Cefnogaeth a chylchlythyr i’r bobl ifanc
Rydyn ni’n darparu cefnogaeth i bobl ifanc, hyd at 26 oed, sydd ag ME a CFS, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr, a hynny trwy gyfrwng y ffôn, e-bost, post a chylchlythyrau. Cysylltwch â Sylvia
Llinell gymorth ac e-help
Dydy WAMES ddim yn cynnig cyngor ar faterion penodol ond gall roi gwybodaeth am amrediad eang o bynciau o ddiddordeb i bobl a effeithir gan ME a CFS. Gallwn hefyd gyfeirio at fudiadau eraill sy’n gallu cynnig gwybodaeth ac/neu gyngor. Manylion cyswllt y llinell gymorth: 029 2051 5061 e-bost.
Grŵp trafod ar-lein
Mae Grŵp Yahoo WAMES yn rhoi cyfle i bobl dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru i gyfarfod a thrafod ag eraill sydd â diddordeb mewn ME a CFS trwy restr bostio electronig.
Rhwydweithiau cymdeithasol
Mae WAMES ar Facebook a Twitter
Gwybodaeth
Mae WAMES wrthi’n datblygu taflenni gwybodaeth dwyieithog amrywiol am amrediad eang o bynciau, a gellir eu llwytho i lawr o’r wefan hon wrth iddynt ddod ar gael.
Codi ymwybyddiaeth
Mae WAMES yn edrych am ffyrdd i godi ymwybyddiaeth am ME a CFS a gwaith WAMES trwy bosteri, gwefannau, cyfeiriaduron, arddangosfeydd, newyddion diweddaraf WAMES yn rheolaidd (ME yng Nghymru), trafodaethau, cynghreiriau, hysbysu’r cyfryngau, a.y.b.