Ein safbwynt

Niwrolegol

Mae WAMES yn derbyn dosbarthiad Mudiad Iechyd y Byd [WHO] fod Enseffalomyelitis Myalgig yn niwrolegol (ICD-10 G93.3), er ein bod yn cydnabod bod y cyflwr yn effeithio ar nifer o systemau yn y corff.

Terminoleg

Mae WAMES yn dewis galw’r cyflwr yn ME ac i beidio ag ymuno yn y ddadl ynglŷn ag a ddylai gael ei alw’n Enseffalomyelitis Myalgig neu’n Enseffalopathi Myalgig. Dydyn ni ddim yn credu bod y term Syndrom Lludded Cronig o gymorth gan ei fod yn canolbwyntio ar un symptom yn unig mewn casgliad cymhleth o symptomau. Rydyn ni hefyd yn pryderu bod y term CFS yn cael ei ddefnyddio fel term ymbarél am amrediad eang o gyflyrau gydag elfen o ludded, cyflyrau a allai fod ag achosion a phatrymau symptomau gwahanol, ac sydd angen triniaeth neu reolaeth wahanol i ME clir-ddiffiniedig.

Seicolegol

Mae WAMES yn cydnabod bod pawb sydd â chyflyrau cronig yn gorfod delio gyda straen seicolegol. Gall rhai ddatblygu iselder clinigol o ganlyniad i’w cyflwr meddygol, a dylai hyn dderbyn triniaeth briodol. Dydyn ni ddim wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod pobl ag ME yn methu gwella oherwydd credoau salwch camaddasol, ond mae yna dystiolaeth gynyddol o gamweithredu corfforol parhaol yn y corff, a allai effeithio ar gyflymder a lefel yr adferiad posibl.

CBT a GET

Mae WAMES yn pryderu bod Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a Therapi Ymarfer Graddedig (GET) yn cael eu hystyried fel camau cyntaf y driniaeth ar gyfer pobl ag ME a CFS. Defnyddir y therapïau hyn fel arfer i gywiro credoau salwch camaddasol a datgyflyru cyhyrol, ond does yna ddim tystiolaeth ar gyfer bodolaeth cyffredin y rhain mewn pobl ag ME. Credwn y gall y dulliau hyn fod yn niweidiol i lawer o bobl ag ME pan fydd bodolaeth cyflwr corfforol gwaelodol yn cael ei anwybyddu a chleifion yn cael eu hannog i gynyddu eu gweithgarwch ar gyflymdra sy’n anaddas iddynt.

Mae arolygon cleifion yn dangos mai GET ydy’r therapi sydd wedi bod fwyaf di-fudd, ac mae rhai cleifion yn teimlo straen seicolegol pan fydd therapyddion yn priodoli eu diffyg adferiad i’r ffaith nad ydyn nhw’n dilyn y rhaglen neu am nad oes arnyn nhw eisiau gwella. Mae llawer yn amau bod ymarfer anaddas yng nghamau cyntaf y salwch wedi cyfrannu at ddatblygiad symptomau cronig ac adferiad araf.

Gallai CBT a ddefnyddir i helpu cleifion i reoli eu cyflwr a lefelau eu gweithgarwch, yn hytrach na newid credoau salwch anghywir, fod yn fwy buddiol i rai cleifion, ond mae ymchwil yn dangos bod cynghori yr un mor effeithiol ac yn rhatach.

Canllawiau meddygol

Mae WAMES yn cefnogi’r Canllawiau Clinigol Canadaidd fel y canllawiau meddygol cyfredol gorau. Hoffem hefyd dynnu sylw at ganllawiau’r Gymdeithas ME a ysgrifennwyd gan feddyg a niwrolegydd.

Dydyn ni ddim yn cymeradwyo canllawiau NICE ar gyfer CFS/ME gan fod llawer o dystiolaeth yr ymchwil biofeddygol wedi’i hanwybyddu ac maen nhw’n cymeradwyo therapïau a allai fod yn beryglus.

Datganiad WAMES am NICE

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.