Beth ydy ME? – cyflwyniad i blant

Mae ME yn salwch sy’n gallu dy wneud yn sâl iawn ac yn wan, ac mewn rhai pobl ifanc mae’n gallu parhau am amser hir. Mae’n perthyn i’r teulu o afiechydon sy’n cael eu galw’n niwrolegol. Gall pobl o bob oedran ei gael.

Beth mae’n cael ei alw?

Mae gan y salwch nifer o enwau ond mae’n aml yn cael ei alw’n fyr yn ME, CFS, ME/CFS neu CFS/ME. Gwell gennym ni ei alw’n ME.

ME – Enseffalomyelitis Myalgig [yr enw gwreiddiol] neu Enseffalopathi Myalgig [mae rhai pobl yn meddwl bod hwn yn fwy cywir]

CFS – Syndrom Lludded Cronig [efallai y bydd yn well gan dy feddyg yr enw yma]

PVFS – Syndrom Lludded Ôl-Firol [efallai y dywedir wrthyt mae hwn sydd gennyt os bydd d’adferiad o dwymyn y chwarennau neu firws arall yn araf]

Beth sy’n ei achosi?

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i rai cliwiau ond mae’n nhw’n dal i chwilio am yr ateb cyflawn. Mae yna nifer o ddamcaniaethau a dydy pawb ddim yn cytuno bod ME yn bodoli neu ei fod yn salwch go iawn.

Efallai dy fod wedi mynd yn sâl ar ôl cael firws fel y ffliw, pigiad neu haint ar y stumog. Gall fod yna sbardunau eraill, neu efallai nad wyt yn gwybod pam yr est ti’n sâl.

Sut ydw i’n gallu darganfod a oes gen i ME?

Does yna ddim profion y gall meddygon eu gwneud i’w brofi, felly, yn gyntaf, rhaid iddyn nhw wirio nad oes unrhyw beth arall yn gwneud i ti deimlo’n sâl. Bydd dy feddyg yn dy holi am dy symptomau, pryd y dechreuon nhw a pha mor ddrwg ydyn nhw. Efallai y gofynnir i ti gadw dyddiadur o’th symptomau a’th weithgareddau. Bydd y meddyg hefyd yn d’archwilio ac yn profi’th waed a’th wrin. Efallai y bydd dy brofion yn normal, ond os bydd dy symptomau’n ffitio i batrwm, efallai y dywedir wrthyt fod gennyt CFS neu ME. Os bydd dy feddyg teulu yn amau bod gennyt CFS neu ME, yna dylet gael dy gyfeirio at bediatrydd (meddyg sy’n arbenigo mewn salwch plant).

Sut y bydd ME yn effeithio arna i?

Gall effeithio arnat mewn nifer o ffyrdd gwahanol a dydy pawb ddim yr un fath. Efallai y byddi’n teimlo’n wan a lluddedig, fel petai gennyt haint sy’n gwrthod mynd ymaith. Efallai na fyddi di’n teimlo’n ddigon da i wneud y pethau rwyt ti’n arfer eu mwynhau, fel darllen, gwrando ar gerddoriaeth, edrych ar y teledu neu ymweld â’th ffrindiau. Efallai y bydd dy gorff cyfan yn teimlo’n ddolurus heb reswn, ac efallai y bydd gennyt gur pen neu stumog boenus ac y byddi’n methu meddwl yn glir.

Efallai y byddi di hefyd yn teilmo’r un mor flinedig yn codi ag oeddet ti pan est ti i’r gwely y noson gynt. Efallai y byddi di’n ei chael hi’n anodd mynd i gysgu neu efallai y byddi di’n methu cysgu yn y nos ond yn cysgu trwy’r dydd.

Yr hyn sy’n gwneud ME yn wahanol i afiechydon eraill ydy bod gweithgareddau normal yn gwneud i ti deimlo’n waeth am beth amser, er ei bod yn bosibl na fyddi di’n sylwi ar hyn hyd nes y diwrnod canlynol neu’n hwyrach.

Gall rhai diwrnodau fod yn well na’i gilydd. A dweud y gwir, efallai y byddi di’n teimlo dy fod yn well neu’n gwella, ac yna fe gei di ddiwrnod gwael iawn, a byddi’n teimlo’n ofnadwy eto am gyfnod. Yn achos y rhan fwyaf o bobl, dydy diwrnodau gwael ddim yn parhau. Yn anffodus, dydy rhai pobl ifanc ddim yn cael diwrnodau da, ac efallai na fyddan nhw’n gallu mynd i’r ysgol o gwbl am gyfnod neu ddim ond yn gallu mynychu’n rhan amser.

Am faint o amser mae’n parhau?

Am fwy o amser nag yr hoffet ti! Efallai y byddi di’n dechrau gwella ar ôl rhai misoedd, ond gall gymryd llawer mwy o amser i eraill. Dydy rhai pobl ifanc byth yn gwella’n llwyr. Y newyddion da ydy fod pobl ifanc yn fwy tebygol o wella nag oedolion, ond mae pawb yn wahanol ac ni fydd neb yn gallu dweud wrthyt faint o amser gymeri di i wella. Mae’n bwysig bod yn amyneddgar a derbyn y gallai’r siwrnai fod yn hir.

Oes yna wellhad?

Yn anffodus, does yna ddim gwellhad, ac efallai na fydd yr hyn sy’n helpu un person o help i berson arall. Yr hyn sydd i’w weld o’r cymorth mwyaf yn y dyddiau cynnar ydy cael digon o orffwys a pheidio â gwthio dy hun yn rhy galed.

Gall meddygon ragnodi meddyginiaeth i helpu poen neu broblemau cysgu, ac efallai y byddan nhw’n gofyn i weithwyr iechyd proffesiynol eraill dy helpu gyda phroblemau eraill.

Cofia:

  • Bydd yn amyneddgar – gall adferiad gymryd amser.
  • Ceisia beidio â phoeni am golli tir gyda’th waith ysgol gan y gelli bob amser ddal i fyny pan fyddi di’n teimlo’n fwy abl i ymdopi.
  • Cofia orffwyso digon a cheisia wneud yr hyn rwyt ti’n gallu ymdopi â’i wneud, ac yn ei fwynhau, yn aml – canolbwyntia ar yr hyn rwyt ti’n gallu ei wneud ac nid ar yr hyn nad wyt ti’n gallu ei wneud.
  • Paid â mygu dy deimladau; gall fod o gymorth i siarad â rhywun sy’n gwybod beth sy’n digwydd i ti!

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.