Cefnogaeth

Gall pobl ag ME a CFS fod yn unig iawn gan nad ydyn nhw’n aml yn ddigon da i gynnal cyfeillgarwch a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol arferol, yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol a’r rhai sydd yng nghamau cyntaf y salwch. Yn ogystal â hyn, does gan y proffesiwn meddygol yn aml ddim llawer o ddealltwriaeth, gwybodaeth a chymorth.

Gall ymuno â grŵp cefnogi hunangymorth:

  • ddarparu dealltwriaeth a chefnogaeth foesol gan bobl a all fod wedi cael profiadau tebyg
  • hyrwyddo derbyniad (bod eich profiadau’n ‘normal’ – dydych chi ddim yn od neu’n ffrîc) a’r cymhelliant i gymryd y cam nesaf ar y daith i adferiad
  • rhoi teimlad hanfodol o gymuned a pherthyn – mae gwybod nad ydych ar eich pen eich hun yn deimlad pwerus
  • darparu hwyl a chwerthin
  • esmwytháu unigrwydd emosiynol
  • rhoi’r grym i chi fod yn gyfrifol am reoli’ch cyflwr
  • darparu gwybodaeth am eich salwch, strategaethau ymdopi, triniaethau posibl, adnoddau cymunedol ac unrhyw beth arall sy’n effeithio ar eich lles
  • rhoi teimlad o gyflawniad pan fyddwch yn gallu helpu rhywun arall
  • darparu cryfder mewn niferoedd a chael mwy o effaith wrth godi arian neu ymgyrchu

Mwy am grwpiau cefnogi

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.