Cefnogwch ni
Mae yna nifer o ffyrdd anffurfiol y gellwch ein helpu, heb fod yn wirfoddolwr llawn.
- Cofrestrwch ar gyfer ein gwybodaeth ddiweddaraf am ME yng Nghymru. Bydd y cylchlythyr hwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ynglÅ·n â’n gwaith, ein harolygon a’n hymgyrchoedd.
- Rhowch wybodaeth i ni am brofiadau da a drwg o ddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ymgyrchu’n fwy effeithiol.
- Lledaenwch y neges – gofynnwch i ni am bosteri, taflenni ac erthyglau am ME a WAMES.
- Adroddwch eich stori wrthym. Gellir ei rhoi ar y wefan ac mewn adroddiadau a datganiadau i’r wasg er mwyn darlunio pa mor gyfnewidiol ydy bywyd ag ME neu fywyd o ofalu am anwyliaid ag ME (gellwch fod yn ddienw os dymunwch).
- Rhowch wybod i ni am gyfleoedd codi ymwybyddiaeth yn y cyfryngau, ar y we, a.y.b.