Diweddaru’r wefan a phorthiannau RSS

Mae rhaglenni meddalwedd o’r enw darllenwyr RSS yn gallu monitro gwefan WAMES (ac eraill) yn awtomatig ar gyfer newidiadau, a phasio’r wybodaeth honno i chi. Mae hyn yn golygu nad oes raid i chi dreulio amser ac egni yn gwirio’r wefan drosodd a throsodd eich hun. Mae’n fwriad gennym i barhau i ychwanegu newyddion, gwybodaeth a dogfennau i’r safle.

Sut mae’n gweithio?

  • Mae gan y porwyr diweddaraf (Firefox, IE7, Opera) ddarllenydd RSS yn rhan ohonynt. Ar gyfer porwyr eraill, bydd raid i chi lwytho un i lawr. Mae yna nifer o raglenni gwahanol ar gyfer pob system weithredu sydd ar gael, e.e. mae Google reader yn rhad ac am ddim.
  • Cliciwch ar y logo oren bychan rss logo ar waelod y sgrin a bydd hyn yn rhoi nod tudalen i’r safle neu’r dudalen.
  • Tanysgrifiwch i borthiant RSS trwy dorri a gludo URL y porthiant o far cyfeiriadau eich porwr gwe i mewn i’ch darllenydd newyddion.
  • Pan fydd yna newid i dudalen (erthygl, ffotograff, eitem newyddion, a.y.b.) bydd eich darllenydd RSS yn ei godi.
  • Pa bryd bynnag y byddwch yn rhedeg eich darllenydd newyddion, byddwch yn medru darllen y porthiannau rydych wedi tanysgrifio ar eu cyfer. Bydd y darllenydd yn eu cadw’n gyfredol yn awtomatig ar eich cyfer.

Comments are closed.