Dweud eich hanes

Pam?hand and microphone

Gall stori bersonol fod yn llawer mwy pwerus na ffeithiau a ffigurau. Gall helpu eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Gall berswadio awdurdodau i wella gwasanaethau neu annog noddwyr i roi grantiau. Gall amlygu’r realiti cudd am ME a CFS i ffrindiau, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.

Beth?

Gall eich hanes fod am eich profiadau, gan gynnwys:

  • Y dyddiau cynnar: mynd yn sâl, dod o hyd i ddiagnosis, addasu
  • Realiti byw gydag ME
  • Ymdrechion i gael gwasanaethau a budd-daliadau
  • Profiadau o driniaethau
  • Realiti gofalu am rywun ag ME
  • Eich gweithgareddau codi arian neu godi ymwybyddiaeth

Sut?

Postiwch neu ebostiwch eich hanes i Jan neu Sylvia. Gall fod ar ffurf ysgrifenedig neu’n recordiad sain neu ddigidol.

Pan?

Byddwn yn defnyddio’r hanesion (neu rannau ohonynt) wrth ymgyrchu, ar y wefan, ac mewn adroddiadau, cylchlythyrau a datganiadau i’r wasg. Rhowch eich enw cyntaf i ni, neu, os dymunwch fod yn ddienw, rhowch ‘ffugenw’ i ni.

Rydyn ni hefyd yn derbyn ceisiadau gan y cyfryngau am gyfweliadau, felly rhowch wybod i ni a fyddech chi’n fodlon siarad â newyddiadurwr yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Eich hanesion

 

 

 

Comments are closed.