Ein strategaeth

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o strategaethau i sicrhau ein bod yn delio gyda’r materion sy’n bwysig i bobl ag ME. Maen nhw’n cynnwys:

  • siarad â’r GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn gwella’r driniaeth a’r gofal i bobl ag ME.
  • gweithio gyda chymdeithasau a sefydliadau proffesiynol sy’n ymwneud â safonau ac arfer gorau i ddiogelu ansawdd y gofal mae pobl ag ME yn ei dderbyn.
  • siarad â Gweinidogion, gwleidyddion a gweision sifil i godi materion allweddol a dylanwadu ar bolisi yn briodol.
  • ymateb i ymgynghoriadau gan y Llywodraeth ac eraill.
  • gwrando ar bobl ag ME er mwyn dod â’u profiadau i sylw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fel bod negeseuon ymgyrchoedd yn cael eu henghreifftio mor bwerus â phosibl.
  • cynnal arolygon o bobl ag ME, darparwyr gwasanaethau, a.y.b. i gael gwybodaeth i gefnogi’n hymgyrchoedd.
  • hysbysu’r cyfryngau.

Comments are closed.