Gofalwyr

Ydych chi’n ofalwr?

Os ydych chi’n gofalu am bartner, aelod o’r teulu neu ffrind sy’n wael neu sydd angen cefnogaeth, yna rydych yn ofalwr ac mae gennych hawliau cyfreithiol. Efallai nad ydych yn ystyried eich hun yn ofalwr, ond yn hytrach yn gweld yr hyn rydych yn ei wneud fel rhan o’ch rôl fel partner, gŵr, gwraig, mab, merch neu ffrind. Efallai na fyddwch yn gweld bod angen i chi gael eich labelu fel ‘gofalwr’, ond gall y rôl hon ddod â heriau a straen yn ei sgil nad oes fawr neb yn barod ar eu cyfer. Gallai derbyn eich bod yn ofalwr fod yn gam cyntaf i gael cefnogaeth, petai ei hangen arnoch.

Yn yr adran hon o’r wefan, byddwn yn ychwanegu erthyglau am amrediad eang o bynciau o ddiddordeb i’r rhai sy’n gofalu am bobl ag ME.

Rydyn ni’n defnyddio’r term gofalwr yma am bawb sy’n darparu gofal a chefnogaeth ddi-dâl ar gyfer rhywun ag ME, a’r term gweithiwr gofal ar gyfer y rhai sy’n cael eu talu i ddarparu gofal.

Comments are closed.