Canllawiau a pholisïau
Dros y blynyddoedd, mae yna nifer o ganllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer gwneud diagnosis o ME a CFS, a sut i’w trin, ond does yr un ohonynt wedi llwyddo i gael derbyniad gan bawb. Mae yna lawer o anghytuno a dryswch o hyd yn y proffesiwn meddygol ynglÅ·n â natur ME a CFS. Mae ysgolion gwahanol o feddwl wedi cynhyrchu canllawiau gwahanol iawn ar sut i fynd i’r afael ag ME a CFS.
Mae’r canlynol yn cydnabod y dosbarthiad niwrolegol o ME:
- Canllawiau Canada – mae WAMES yn cefnogi’r canllawiau hyn fel ‘yr enghraifft gyfredol orau o ganllawiau meddygol ar gyfer y cyflwr imiwnoniwrolegol a elwir yn ME’.
Mae gan y canllawiau canlynol bwyslais seico-gymdeithasol:
- Canllawiau NICE – darllenwch Ymateb WAMES i ganllawiau NICE
- Canllawiau RCPCH (Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant) – darllenwch Ymateb WAMES i ganllawiau RCPCH
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod ME yn salwch cronig a bod yna ‘ddiffyg tystiolaeth a chonsensws o hyd ar asesu a thrin priodol’. Mae’r dogfennau canlynol yn dangos agwedd y llywodraeth at ME a CFS: