Gellir profi cefnogaeth mewn nifer o ffyrdd:

  • Cyfarfod wyneb yn wyneb mewn grwpiau lleol
  • Elusennau cenedlaethol neu ranbarthol gyda chylchgronau, cynlluniau ffrindiau gohebol, a.y.b.
  • Cymunedau ar-lein fel fforymau neu negesfyrddau, ystafelloedd sgwrsio, rhestri e-bostio
  • Rhwydweithiau cymdeithasol fel MySpace, Facebook, Twitter, Plaxo, LinkedIn, Yahoo
  • Cymunedau rhithwir

Awgrymiadau ar sut i gael y gorau o grwpiau cefnogi:

  • Gwnewch eich gorau i gymryd rhan a chynnig eich cefnogaeth a’ch profiadau i eraill – gall hyd yn oed rannu storïau am eich methiannau fod o gymorth.
  • Cadwch feddwl agored – bydd y bobl y byddwch yn eu cyfarfod yn dod o gefndiroedd amrywiol iawn a gall eu safbwynt am y salwch a’r hyn sydd o gymorth fod yn wahanol.
  • Pan fyddwch yn ymuno â grŵp ar-lein, byddwch yn gyfeillgar ond cyfyngwch ar faint o wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhannu er mwyn cynnal eich preifatrwydd ac atal lladrad hunaniaeth posibl.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich meddalwedd gwrthfirysau wedi’i osod ac yn gyfredol.
  • Ymchwiliwch bob amser i unrhyw beth a allai effeithio ar eich iechyd a’ch lles, hyd yn oed os oes gair da iawn iddo.
  • Gwiriwch fod y grŵp yn cynnig yr hyn sydd ei angen arnoch: sgwrs a rhannu anffurfiol, grwpiau trafod trefnedig, darlithoedd, gweithgareddau cymdeithasol neu gyfle i glebran.

Comments are closed.