Mae adroddiad wedi cael ei gyhoeddi, sy’n gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i’r Asesiad Gallu i Weithio (WCA, Work Capability Assessment) i bobl hefo cyflyrau ansefydlog. Bu i Forward-ME (cynghrair o elusennau ME ym Mhrydain) a phump elusen sy’n cynrychioli ystod o gyflyrau meddygol, gynnal archwiliad oherwydd bod nifer fawr o bobl ar draws Prydain gyda chyflwr iechyd ansefydlog wedi cael eu pennu’n ffit i weithio, er nad oedd hyn yn gywir, ar ol cael yr Asesiad Gallu i Weithio (WCA) ar gyfer y Lwfans Cyfflogaeth a Chymorth (ESA Employment & Support Allowance)

Mae’r 12 o argymhellion yn cynnwys:

  • gofyn mwy o gwestiynau mewn asesiadau er mwyn deall yn well sut mae cyflwr ansefydlog yn effeithio, mewn gwirionedd, ar allu rhywun i weithio
  • newid y ffordd mae’r prawf wedi’i eirio er mwyn gofyn os gall pobl gwblhau gweithgareddau’n ‘ddibynadwy, dro ar ol tro ac yn ddiogel’ ac, fel bo’n gymwys, ‘o fewn cyfnod o amser rhesymol’ a ‘heb anesmwythyd arwyddocaol, anadl yn fyr neu lesgedd’
  • gwella’r prawf i gydnabod y rhwystr rhag gweithio a gyflwynir gan boen, llesgedd neu broblemau gwybyddol

Caiff yr adroddiad ei archwilio nawr gan grwp annibynnol o wybodusion a chaiff yr elusennau gyfle i roi mewnbwn i’r argymhellion cyn iddynt gael eu gyrru yn yr hydref i’r DWP ac i Weinidogion drwy’r Athro Harrington, sy’n gwneud archwiliad annibynnol o’r Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Trafodwyd yr adroddiad ar raglen radio ‘Radio 4’, ‘You and Yours‘, ddydd Mercher, 11eg o Fai, 2011

 

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.