Ar Ddydd Calan 2013, cyfunodd WAMES â Grŵp ME Canolbarth a Gorllewin Cymru (MWWMEG). Roedd gennym berthynas weithio dda â MWWMEG eisoes, ond rydym yn gyffrous ynglŷn â’r cyfle hwn i gyfuno adnoddau, i ddysgu oddi wrth MWWMEG ac i wella’n cefnogaeth a’n cynrychiolaeth ar ran pobl ag ME ledled Cymru. Felly, beth fydd y cam nesaf?
Cylchgrawn newydd i ymddangos ym mis Chwefror
Roedd llawer o aelodau MWWMEG yn gwerthfawrogi ei gylchgrawn llawn gwybodaeth, ac felly yn hytrach na’n cylchlythyr bychan anaml, rydym wedi penderfynu cael cylchgrawn a fydd, gobeithio, o ddiddordeb i bobl ledled Cymru. Bydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein neu ar e-bost, neu gellir tanysgrifio ar gyfer copïau papur. Mwy o wybodaeth ym mis Chwefror.
Dewiswch sut i gyfrannu
- ymaelodwch a helpwch i arwain gwaith WAMES
- gwirfoddolwch a’n helpu i wneud gwahaniaeth i bobl ag ME
- tanysgrifiwch neu ymunwch â’r rhestr e-bost rhad ac am ddim
- cyfrannwch arian
NEU gwnewch y 4 peth!
Cefnogwch gyfarfodydd y grŵp
Bydd cyfarfodydd lleol MWWMEG yn parhau fel grwpiau annibynnol, gyda chefnogaeth WAMES. Rydym bob amser yn awyddus i helpu pobl i sefydlu cyfarfodydd newydd. Cewch wybodaeth am bob grŵp cefnogi yng Nghymru yma.
Beth arall?
Byddwn yn parhau, hyd eithaf ein gallu, i ymgyrchu a darparu gwybodaeth ar gyfer pobl ag ME, gofalwyr a phobl broffesiynol. Ond cofiwch mai sefydliad bychan ydyn ni, gyda chyllid cyfyngedig, felly meddyliwch sut y gallwch helpu os gwelwch yn dda!
Ar Ddydd Calan 2013, cyfunodd WAMES â Grŵp ME Canolbarth a Gorllewin Cymru (MWWMEG). Roedd gennym berthynas weithio dda â MWWMEG eisoes, ond rydym yn gyffrous ynglŷn â’r cyfle hwn i gyfuno adnoddau, i ddysgu oddi wrth MWWMEG ac i wella’n cefnogaeth a’n cynrychiolaeth ar ran pobl ag ME ledled Cymru. Felly, beth fydd y cam nesaf?
Cylchgrawn newydd i ymddangos ym mis Chwefror
Roedd llawer o aelodau MWWMEG yn gwerthfawrogi ei gylchgrawn llawn gwybodaeth, ac felly yn hytrach na’n cylchlythyr bychan anaml, rydym wedi penderfynu cael cylchgrawn a fydd, gobeithio, o ddiddordeb i bobl ledled Cymru. Bydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein neu ar e-bost, neu gellir tanysgrifio ar gyfer copïau papur. Mwy o wybodaeth ym mis Chwefror.Â