Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn cynnig fframwaith ar gyfer gweithredu i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau. Mae’n nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y GIG yng Nghymru o ran cynllunio, sicrhau a darparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan gyflwr niwrolegol. Mae’n canolbwyntio ar ddiwallu angen y boblogaeth, mynd i’r afael â gwahaniaethau o ran hygyrchedd gwasanaethau a lleihau anghydraddoldeb mewn canlyniadau iechyd drwy 6 thema:

  • Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol
  • Gwneud diagnosis amserol o gyflyrau niwrolegol
  • Gofal cyflym ac effeithiol
  • Byw gyda chyflwr niwrolegol
  • Gwella gwybodaeth
  • Targedu ymchwil

Ar gyfer pob thema, mae’n nodi’r canlynol:

  • Disgwyliadau o ran cyflawni ar gyfer rheoli cyflyrau niwrolegol
  • Blaenoriaethau penodolar gyfer 2013-2016
  • Cyfrifoldeb am ddatblygu a chymryd camau i gyflawni’r blaenoriaethau penodol
  • Dangosyddion canlyniadau poblogaeth a mesurau sicrwydd y GIG

Mae’r rhain yn ategu’r gofynion ansawdd a gefnogwyd yn Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Lwybrau Gofal ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Hirdymor, y mae’n rhaid ei ddarparu ochr yn ochr â’r Cynllun Cyflawni hwn.

Mae gwasanaethau i bobl sydd mewn perygl o gael strôc, neu sydd wedi cael strôc, yn cael eu trafod ar wahân yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc.

Yn 2009, cyhoeddodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Lwybrau Gofal ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Hirdymor ei adroddiad a’i argymhellion. Cefnogai set o egwyddorion generig ar gyfer datblygu gwasanaethau i gynorthwyo pobl â chyflyrau niwrolegol hirdymor i reoli eu cyflwr, cadw’n annibynnol a sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl drwy broses integredig o addysgu, rhannu gwybodaeth, asesu, cynllunio gofal a darparu gwasanaethau. Yn sgil hynny, cyhoeddwyd nifer o lwybrau gofal ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn cynnwys epilepsi, clefyd niwronau motor, dystroffi’r cyhyrau, clefyd Parkinson ac anaf i’r ymennydd.

Roedd gofal iechyd arbenigol safonau niwrowyddorau Cymru gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009, yn nodi safonau gofal a nifer o gamau gweithredu allweddol.

Sut i ymateb:

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Ionawr 2014 arlein,

E-bost majorhealthconditionspolicyteam@wales.gsi.gov.uk

Post:

Tîm Polisi Cyflyrau Iechyd Difrifol, Is-adran Ansawdd Gofal Iechyd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd  CF10 3NQ

 

This entry was posted in Newyddion and tagged , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.