Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cydweithio i gael adborth gan ofalwyr sy’n byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, er mwyn deall pa mor dda yr ydym yn eich cefnogi ac er mwyn ein helpu ni i wella. Byddem yn ddiolchgar pe baech yn llenwi’r arolwg byr hwn, gan fod eich barn yn bwysig iawn i ni.

Pam ddylech chi gymryd rhan?

Gofalwr yw rhywun sy’n edrych ar ôl perthynas, ffrind neu gymydog sy’n methu ymdopi heb gymorth oherwydd eu bod yn oedrannus, yn anabl oherwydd iechyd corfforol neu iechyd meddwl, problem gyffuriau neu alcohol neu sydd â salwch hirdymor. Mae’r gofal a roddir ganddynt yn ddi-dâl. Os yw hyn yn eich disgrifio chi, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg hwn.

 

 

This entry was posted in Newyddion and tagged , , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.