Mae WAMES yn mynd ar daith codi arian – Pam?

 

Mae angen £800 arnom erbyn diwedd mis Mawrth 2023

Mae ein hincwm wedi gostwng, felly ni fyddwn yn gallu talu ein biliau sylfaenol ar ôl eleni.

Nid ni yw’r unig elusen sy’n wynebu problemau. Mae llawer wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid ein taith codi arian yw ein dewis ni ond mae’n hanfodol os ydym am barhau i weithio ac osgoi tynged debyg.

Mae llawer o sefydliadau ME yn y DU, pob un â chryfderau a blaenoriaethau gwahanol. Nid oes yr un yn gwneud yr hyn y mae WAMES yn ei wneud. Ni yw’r unig elusen lle mae pobl Cymru yn dod at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac eiriol dros y gwasanaethau sydd eu hangen arnom.

Pam £800?

Our budget for ‘running costs’ in 2023 is:

Gwefan £400
Yswiriant £300
Gweinyddol  £100                Cyfanswm:   £800

Os bydd cyfarfodydd arferol yn dychwelyd yn 2023 yna bydd angen i ni ddod o hyd i ragor o gyllid  ar gyfer trafnidiaeth a llety, i’n galluogi i gynrychioli pobl ag ME.

Bydd angen cyllid ychwanegol arnom hefyd i adeiladu gwefan newydd, a byddwn yn archwilio pob opsiwn ar gyfer hyn.

Sut?

Nid yw’n ddelfrydol i fod yn gofyn i bobl am arian ar adeg pan fo prisiau’n codi. (Ychydig o danddatganiad!) Dyna pam rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ystod 2022. Efallai bod gennych CHI‘r sgiliau sydd eu hangen arnom i’n helpu ni i archwilio’r holl wahanol ffyrdd y gallwn godi arian: am ddim arian; gwariant ynni isel; ysbrydoli ffrindiau a theulu i ymuno â ni; neu drwy ddenu cyllid arall. Gallech gofrestru fel gwirfoddolwr, anfon rhai syniadau atom neu drefnu eich gweithgaredd codi arian eich hun. Ymunwch â ni ar ein taith codi arian!   #WAMES_800

Yn dod nesaf:

Sut i gael rhoddion am ddim i WAMES – siopa ar-lein

 

This entry was posted in News. Bookmark the permalink.

Comments are closed.