Ein hanes

Sefydlwyd WAMES yn 2001 gan grwpiau cefnogi lleol i fynd i’r afael â’r materion gododd yn sgil datganoli a chymdeithas ddwyieithog. Hynny ydy, doedd ymgyrchoedd yn Lloegr ddim yn effeithio ar wasanaethau yng Nghymru a doedd llawer o bobl ddim yn gallu cael gafael ar wybodaeth am ME yn eu hiaith gynhenid.

Lansiwyd y gymdeithas gyda digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol oedd yn cynnwys arddangosfa, gwybodaeth ac anerchiadau gan ein Hymgynghorydd Meddygol, Dr Betty Dowsett (yn wreiddiol o Gasnewydd-ar-Wysg), Chris Clarke (Action for ME) a pherson ifanc ag ME difrifol. Dyma oedd cychwyn ein hymgyrchu gwleidyddol am gydnabyddiaeth i ME ac am wasanaethau. Yn garedig iawn, addasodd Hedd Gwynfor ei wefan ddwyieithog i fod yn wefan i WAMES, ac yn 2005 fe gynhyrchon ni ein taflen ddwyieithog gyntaf: Cymryd pwyll gydag ME a CFS – canllaw i gleifion gan Dr Ellen Goudsmit.

Yn 2006, penderfynwyd ei bod yn amser i ni ehangu ar ein sail cefnogaeth er mwyn ymateb yn llawn i heriau’r dyfodol, ac felly fe newidion ni’r ffordd roedden ni’n cael ein llywodraethu. Mabwysiadwyd cyfansoddiad newydd oedd yn ein gwneud yn annibynnol ar y grwpiau lleol. O hynny ymlaen, câi pobl ag ME a’u gofalwyr, yn ogystal â grwpiau cefnogi, o bob rhan o Gymru, wahoddiad i ymuno â’n gwaith fel ymddiriedolwyr, cefnogwyr neu wirfoddolwyr.

 

Comments are closed.