Ein strwythur a’n nawdd

Ein strwythur

Mae WAMES yn sefydliad gwirfoddol cwbl gyfansoddiadol sy’n cael ei redeg yn ôl y canllawiau a osodwyd i lawr gan y Comisiwn Elusennau. Rydyn ni wedi bod yn elusen gofrestredig er mis Tachwedd 2011. Mae ein gwaith yn cael ei reoli gan bolisïau ysgrifenedig ar gyfrinachedd, cyfleoedd cyfartal, gwirfoddoli, diogelwch, ymddiriedolwyr a dulliau gweithredu cwynion.

Mae’r pwyllgor llywodraethol yn cynnwys pobl ag ME a’u gofalwyr yn bennaf, sy’n cael eu hethol gan aelodau yn y CCB bob mis Mawrth. Maen nhw’n gyfrifol am weithredu strategaeth WAMES a gwaith bob dydd y gymdeithas.

Mae aelodaeth yn agored i breswylwyr Cymru sydd dros 18 oed ac i sefydliadau wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n cefnogi amcanion WAMES. Mae aelodau’n ymuno er mwyn cymryd rhan yn y gwaith, ond rydyn ni hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr a chefnogwyr sydd mewn cytundeb â’n hamcanion ond nad ydyn nhw’n dymuno bod yn aelodau.

Ein nawdd

Rydyn ni wedi cael ein noddi gan gyfraniadau oddi wrth unigolion, grwpiau cefnogi ME a sefydliadau proffesiynol. Ym mis Medi 2010, dyfarnwyd i ni grant Arian i Bawb Cymru o £5,000 o’r Gronfa Loteri Fawr am ymgyrch ymwybyddiaeth.

Comments are closed.