Arolwg WAMES o wasanaethau

ar gyfer pobl ag ME, CFS, PVFS a’u gofalwyr yng Nghymru 2012-2013

Ellwch chi helpu?

Pam?

Mae WAMES yn dymuno gwella ansawdd bywyd pobl ag ME a CFS trwy ymgyrchu am well gwasanaethau. Rydyn ni’n siarad â Byrddau Iechyd Lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol, y Gwasanaethau Cymdeithasol, a.y.b. ynglŷn â’u cynlluniau i wella gwasanaethau.

Beth?

Rydyn ni am glywed am eich barn a’ch profiadau (da a drwg) chi am wasanaethau yng Nghymru.

Pwy?

Pobl sydd wedi cael diagnosis o ME, CFS, PVFS, YNGHYD Â’U gofalwyr.

Sut?

Gofalwyr, os ydych chi’n llenwi holiadur ar ran y person neu’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt, cwblhewch ffurflen ar wahân ar gyfer pob un os gwelwch yn dda. Hefyd, atebwch ychydig gwestiynau ynglŷn â’ch profiad chi o wasanaethau ar gyfer gofalwyr.

Pryd?

Gallwn dderbyn holiaduron wedi’u cwblhau unrhyw bryd yn ystod 2012 a 2013, ond gorau po gyntaf! Ni chaiff unrhyw unigolyn ei nodi ac ni fydd WAMES yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth i drydydd parti.

 

Comments are closed.