Grwpiau ME y DU

Mae yna nifer o grwpiau sy’n agored i bobl ledled y DU, er na allan nhw i gyd ddarparu gwybodaeth fanwl a chyfredol am faterion Cymreig. Sylwer mai yn Saesneg yn unig mae’r gwefannau hyn oni nodir yn wahanol.

Grwpiau ar gyfer pob oedran

Grŵp 25% Grŵp cefnogi ar gyfer dioddefwyr sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol.

Action for ME (AfME) Prif elusen ar gyfer cleifion, sydd hefyd yn ymgyrchu ac yn darparu cefnogaeth i grwpiau lleol.

Christians with ME Man cyfarfod ar-lein lle gall dioddefwyr a gofalwyr sy’n Gristnogion ddod o hyd i gyfeillgarwch a chefnogaeth, gyda’r rhyddid i drafod pob agwedd ar eu hiechyd, bywyd a ffydd.

Connexions Grŵp ar gyfer Tystion Jehofa sy’n dioddef o ME/CFS ac afiechydon eraill o’r fath, ynghyd â’u gofalwyr.

ME Association (MEA)  Elusen bwysig ar gyfer cleifion, sydd hefyd yn darparu gwybodaeth feddygol ac sydd â chronfa ymchwil.

ME/CFS parents Grŵp ar gyfer pobl ag ME sy’n rhieni, sydd ar fin dod yn rhieni neu sy’n ystyried bod yn rhieni.

Overton Trust Elusen sy’n cynnig cefnogaeth gyfannol ar gyfer ME, gydag amrywiaeth o ddylanwadau ysbrydol.

Parents with Chronic Fatigue Syndrome (CFS) / ME Mae’r fforwm ar-lein hwn ar gyfer rhieni/rhieni i fod sydd ag ME neu sydd â phartner ag ME/CFS. Mae’n rhoi cyfle iddynt rannu storïau ac annog ei gilydd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am grwpiau cefnogi rhanbarthol y DU ar y wefan ganlynol: Gwefan MEA

Grwpiau ar gyfer pobl ifanc

Grwpiau cefnogi gofalwyr

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.