Syniadau codi arian

Mae yna nifer o ffyrdd y gellwch helpu WAMES i godi arian ar gyfer ein gweithgareddau a’n hymgyrchoedd. Dyma rai syniadau:

  • Digwyddiadau noddedig – gallai’r rhain fod ar gyfer rhywbeth bywiog megis taith gerdded neu farathon, neu ar gyfer rhywbeth sy’n defnyddio llai o egni megis distawrwydd, eillio rhannau o’r corff (e.e. y pen, y coesau), cysgu, diwrnod gwisgo pyjamas (faint o leoedd ellwch chi ymweld â nhw yn eich pyjamas?).pot coffi
  • Digwyddiadau cymdeithasol megis sêl cist car, cyngherddau, boreau coffi, partïon, cwisiau tafarn neu helfa drysor.
  • Defnyddiwch eich sgiliau – dyluniwch a gwnewch gardiau, gwnewch gacennau neu gyffug, tyfwch blanhigion, a.y.b. Neu rhowch eich amser ar ocsiwn ar gyfer gwarchod plant, garddio, addysgu sgìl, a.y.b.
  • Yn yr ysgol – diwrnod dim gwisg ysgol, diwrnod gwallt gwyllt neu ddiwrnod gwisg ffansi, ffair ysgol, eilun pop, drama neu gyngerdd, picnic tedi bêrs, casgliad, sioe talentau athrawon.
  • Yn y gwaith – dydd Gwener gwisgo i lawr, diwrnod glam, diwrnod gwisg ffansi, jar newid rhydd neu focs rhegi, ocsiwn addewidion, cinio neu noswaith gwis, gwerthu ciniawau pecyn.tun casglu
  • Casglwch yn eich ardal – gofynnwch i’ch siop leol arddangos blwch casglu. Os byddwch yn dymuno casglu mewn man cyhoeddus, bydd arnoch angen trwydded. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ac am flychau.

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.