Cefnogwch ni

Mae yna nifer o ffyrdd anffurfiol y gellwch ein helpu, heb fod yn wirfoddolwr llawn.

  • Rhowch wybodaeth i ni am brofiadau da a drwg o ddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ymgyrchu’n fwy effeithiol.
  • Lledaenwch y neges – gofynnwch i ni am bosteri, taflenni ac erthyglau am ME a WAMES.
  • Adroddwch eich stori wrthym. Gellir ei rhoi ar y wefan ac mewn adroddiadau a datganiadau i’r wasg er mwyn darlunio pa mor gyfnewidiol ydy bywyd ag ME neu fywyd o ofalu am anwyliaid ag ME (gellwch fod yn ddienw os dymunwch).
  • Rhowch wybod i ni am gyfleoedd codi ymwybyddiaeth yn y cyfryngau, ar y we, a.y.b.

Comments are closed.