Gwirfoddolwyr

Mae pawb yn WAMES yn wirfoddolwr. Rydyn ni’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni ond hefyd yn gwybod y gallen ni gyflawni llawer iawn mwy gyda chymorth ychwanegol.volunteers' hands

Mae yna lawer o waith i’w wneud yng Nghymru yn ymgyrchu, codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth. Mae WAMES yn chwilio am bobl ag amrywiaeth eang o sgiliau a diddordebau i weithio ochr yn ochr â thîm bychan. Gall y swyddi gwahanol gael eu teilwra yn ôl lefelau egni’r ymgeisydd a’r amser rhydd sydd ganddynt ar gael.

Rydyn ni’n croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy’n byw yng Nghymru. Dydy gwybodaeth am ME ddim yn hanfodol ond mae parodrwydd i ddysgu amdano yn hynod bwysig gan y byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phobl gyda’r cyflwr. Cysylltwch â Jan i gael mwy o wybodaeth.

Isod ceir rhai enghreifftiau o’r mathau o gyfleoedd sydd ar gael, ond rydyn ni hefyd yn croesawu awgrymiadau.

Y cyfryngau

Mae arnom angen pobl o bob oedran, o bob ardal yng Nghymru, a fyddai â diddordeb mewn rhoi cyfweliadau ar gyfer y teledu, papurau newydd, cylchgronau a’r radio. Hoffen ni glywed gan bobl sydd â llawer i’w ddweud am:

  • yr hawl i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • pwysigrwydd ymchwil i ME a chwilio am iachâd
  • effaith ME ar eich gwaith ac/neu eich bywyd teuluol
  • effaith gofalu am blant neu oedolion gydag ME ar eich bywyd
  • yr hawl i addysg, trawsnewid i wasanaethau oedolion, a materion eraill sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc
  • yr hawl i fudd-daliadau neu unrhyw fater perthnasol arall

Cysylltwch â Sylvia i drafod bod yn wirfoddolwr cyfryngau.

Storïau digidol

Rydyn ni’n chwilio am bobl i fod yn rhan o broject ymwybyddiaeth fideo. Ar y llaw arall, gellwch lunio eich storïau digidol eich hun gyda chyngor gan y BBC

Codi ymwybyddiaeth

Cysylltwch â ni os hoffech helpu gyda dosbarthu cyhoeddusrwydd, chwilio am gyfleodd ymwybyddiaeth neu drefnu digwyddiadau, arddangosfeydd, a.y.b.

Pobl Ifanc

A allai eich dawn o gyfathrebu â phobl ifanc ein helpu i greu posteri, taflenni gwybodaeth a chylchlythyr effeithiol?

Cyhoeddusrwydd a chyhoeddiadau

Oes gennych chi sgiliau a syniadau dylunio a gosod ar gyfer cyfathrebu trwy daflenni gwybodaeth, posteri, PowerPoint, a.y.b.?

Gweinyddu

Hoffech chi helpu yn y cefndir (yn aml o’r cartref) trwy ddosbarthu cylchlythyrau, cymryd cofnodion, cymryd cofnodion CCB, anfon postiadau, a.y.b.?

Codi arian

Ellwch chi ein helpu i ddatblygu strategaeth gyllido gynaliadwy ac i ddod o hyd i noddwyr posibl?

Ar-lein

Ydych chi’n treulio llawer o amser ar-lein? Fyddech chi’n hoffi dysgu sut i ddiweddaru’n gwefan, cydgysylltu’r blog newyddion neu ehangu ein presenoldeb ar-lein?

Ymchwil

Mae arnom angen rhywun gyda chefndir gwyddonol ac/neu ymchwil i’n helpu i fonitro ymchwil, i ddatblygu perthynas ag ymchwilwyr neu i wneud arolygon ar gyfer WAMES.

Yr iaith Gymraeg

Mae angen i lawer o’r uchod gael ei wneud yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Hoffen ni gael rhywun gyda sgiliau ieithyddol da i’n helpu i ddatblygu’n gwaith yn y Gymraeg.

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.