Ymwybyddiaeth ME

Mai y 12fed ydy Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth ME. Mae hwn yn adeg pan fo pobl ledled y byd yn chwilio am fodd i amlygu’r effaith tymor hir ac andwyol y gall y cyflwr ei gael ar bobl, a’r holl ffyrdd gwahanol mae’n gallu amharu ar deuluoedd a ffrindiau ac achosi gofid iddynt. Mae’r diwrnod hefyd yn gweithredu fel ffocws ar gyfer digwyddiadau codi arian.

Dewiswyd 12 Mai fel y dyddiad gan mai hwn ydy dyddiad geni Florence Nightingale, y nyrs fu’n ysbrydoliaeth i sefydlu’r Groes Goch Ryngwladol. Deellir iddi fynd yn wael yng nghanol ei thri degau gyda chyflwr gwanychol anhysbys. Er gwaethaf ei gwaeledd a gorfod treulio’r mwyafswm o’i hamser yn y gwely, sefydlodd yr Ysgol Nyrsio gyntaf. Mae ei enghraifft yn ysbrydoli pobl ag ME i ddyfalbarhau ac i weithio ar gyfer newid.

Wythnos ymwybyddiaeth 2017: 7-11 Mai

Awgrymiadau ynglŷn â sut y gellwch gyfrannu:

  • Gwisgwch las – gwisgwch ddillad glas a byddwch yn barod i egluro pam, os gofynnir i chi
  • Gwisgwch rubanau glas – gallwn gyflenwi nifer fechan neu gellwch eu prynu gan BRAME
  • Cystadleuaeth gelfyddyd ac arddangosfa i ddarlunio ME
  • Trefnwch gyngerdd
  • Diffoddwch y gerddoriaeth – gofynnwch i siopau ddiffodd eu cerddoriaeth ac arddangos poster yn egluro sensitifrwydd i sŵn
  • Rhannwch eich stori gyda’ch cyfryngau lleol
  • Gosodwch arddangosfa yn eich llyfrgell neu eich gofod cymunedol lleol
  • Trefnwch ddigwyddiad codi arian.

Oes gennych chi syniad gwahanol? – cysylltwch â ni am gymorth gyda chyhoeddusrwydd a chynllunio.

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.