Preifatrwydd a gwarchod data

Mae a wnelo’r polisi preifatrwydd hwn yn unig â’r casgliad o wybodaeth bersonol defnyddwyr a luniwyd gan WAMES a’i hasiantiaid. Nid yw’n berthnasol i unrhyw wefannau trydydd parti y gallem ddarparu cysylltau iddynt. Gall gwefannau trydydd parti fod â’u polisïau preifatrwydd eu hunain.

Eich gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i WAMES, rydych yn rhannu’r wybodaeth honno â ni yn unig, oni ddatgenir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth rydyn ni’n ei chasglu

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth ynglŷn â pha dudalennau ar ein gwefan sy’n derbyn ymweliadau, a hefyd unrhyw wybodaeth a wirfoddolir gennych, fel ymatebion i arolygon, cyfeiriadau e-bost a’ch dull dewisol o gyfathrebu. Os ydych chi dan 18 oed, sicrhewch eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/gwarchodwr ymlaen llaw.

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd neu fod yna reidrwydd cyfreithiol i wneud hynny. Dydy WAMES ddim yn gwerthu na rhentu gwybodaeth defnyddiwr bersonol i unrhyw un.

Cwcis

Ffeiliau testun sy’n cael eu creu pan fyddwch yn ymweld â gwefan ydy cwcis. Maen nhw’n cael eu storio yng nghyfeiriadur cwcis eich cyfrifiadur. Rydyn ni’n defnyddio cwcis, ynghyd ag offer dadansoddol y we, i fonitro sut y defnyddir ein gwefan ac i’n helpu i’w gwella.

Dydy’r defnydd o gwcis ddim yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur, ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Newid eich manylion cyswllt

Gellwch gysylltu â ni unrhyw bryd i drafod/dileu/newid unrhyw ddata sydd gennym amdanoch trwy:

Cadwn yr hawl i wrthod mynediad i ddata personol oni bai fod prawf hunaniaeth yn cael ei ddarparu.

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.