Cynghrair CTH De Gwynedd aelodaeth

Pam Ymaelodi ?

Gyda’n gilydd, gallwn fod yn llais cryfach i bawb yn Ne Gwynedd sy’n dioddef o gyflyrau iechyd cronig a thymor hir.

Dyma rai o fanteision ymaelodi:

  • Y cyfle i dderbyn gwybodaeth, cyfarwyddiadau a manylion drwy e-bost
  • Y cyfle i rannu gwybodaeth ac arfer da gyda sefydliadau eraill
  • Hyrwyddo’ch gwaith drwy gyhoeddusrwydd y Gynghrair
  • Codi ymwybyddiaeth o natur ac effaith y cyflwr iechyd mae’ch sefydliad yn ymdrin ag o.
  • Cynorthwyo i ddylanwadu ar wasanaethau a pholisïau lleol
  • Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i geisio gwella ansawdd bywyd y rheini â chyflyrau iechyd tymor hir
  • Dysgu am yr adnoddau sydd ar gael i drigolion de Gwynedd sy’n dioddef o gyflyrau iechyd tymor hir
  • Defnyddio logo’r Gynghrair ar eich gwefan a’ch gwaith papur.

Sut i ymaelodi

 Aelodaeth

Gall sefydliadau (dielw) y trydydd sector sy’n cynrychioli neu’n gweithio i ddiwallu anghenion y rheini sy’n dioddef o gyflyrau iechyd tymor hir (a’u gofalwyr) ddod yn Aelod Grŵp. Gall pob grŵp ethol un gwirfoddolwr i bleidleisio ar eu rhan, ond mae croeso i gynrychiolwyr eraill fod yn rhan o’r Gynghrair hefyd.

Gall unigolion sy’n dioddef o gyflwr tymor hir (neu sy’n gofalu am rywun sydd â chyflwr o’r fath) ymaelodi â ni yn ogystal, yn enwedig yr unigolion hynny lle nad oes grŵp cefnogi yn eu hardal (neu’r rheini sydd ddim yn barod i ymaelodi ag un o’r grwpiau hyn). Gall y rheini sy’n gweithio’n benodol i hyrwyddo’r gwaith o ofalu am bobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd tymor hir ymuno hefyd.

Aelod Cyswllt

Gall yr holl grwpiau eraill (cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) ac unigolion sy’n cefnogi gwaith y Gynghrair ymaelodi â ni fel Aelod Cyswllt.

Fel Aelod Cyswllt, byddwn yn cynnig yr un buddion i chi ag aelodau grŵp ond am yr hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol.

Aelod Proffesiynol

Mae croeso i bawb sy’n gweithio i awdurdodau cyhoeddus neu i gwmnïau preifat sy’n cynnig gwasanaethau i bobl â chyflyrau iechyd tymor hir ymaelodi â ni fel Aelod Proffesiynol.

Fel Aelod Proffesiynol, byddwn yn cynnig yr un buddion i chi ag aelodau grŵp ond am yr hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol a’r hawl i ddefnyddio’n logo.

Nid oes tal aelodaeth ond gan ein bod yn dibynnu ar gyfraniadau a grantiau, byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad tuag at ein gwaith.

Cais Aelodaeth Cymraeg

Cais Aelodaeth Saesneg

Nid oes ffi, ond gan ein bod yn dibynnu ar roddion a grantiau, yn cyfrannu tuag at ein gwaith yn cael ei werthfawrogi bob amser.

Am fwy o fanylion ebostiwch secretary@southgwyneddltca.org.uk

Yn ôl i’r brif dudalen CCTHDG

 

 

Comments are closed.