Gofalu am berson ag ME

Mae bob amser yn dorcalonnus pan fydd rhywun sy’n annwyl gennych yn dioddef, ond pan fydd y dioddefaint hwnnw’n parhau am fisoedd, hyd yn oed flynyddoedd, a chithau’n methu gwneud fawr ddim i esmwytháu eu poen a’u hanghysur, gall fod yn anodd iawn delio gyda’r sefyllfa.

Os ydych chi hefyd yn gorfod gwylio’ch anwylyn yn brwydro yn erbyn anghrediniaeth o du’r proffesiwn meddygol ac yn ymdrechu i gael diagnosis, triniaeth, gofal cymdeithasol neu fudd-daliadau, gall rhwystredigaeth a lludded ychwanegu at y straen a achosir gan gyfrifoldebau ychwanegol y gofal ymarferol. Bydd eich agwedd yn bwysig er mwyn helpu’ch partner, ffrind neu berthynas i ddelio gyda’r ergydion hyn i’w hunan-gred. Efallai y bydd raid i chi hefyd wynebu anghymeradwyaeth neu sen am annog rhywun gyda ‘chredoau salwch camaddasol’, a bydd angen i chi fod yn wybodus ac yn gryf i ddelio gyda hynny.

Gall gofalu am berson gwael newid natur eich perthynas â’r person hwnnw yn sylweddol. Efallai y byddwch yn teimlo profedigaeth o fod wedi colli partner neu ffrind bywiog. Byddwch hefyd efallai wedi gorfod rhoi’r gorau i weithgareddau cymdeithasol, gwaith neu astudiaeth er mwyn gofalu am aelod o’r teulu, ac yn teimlo eich bod yn dechrau colli eich hunaniaeth eich hun. Gall hefyd newid eich perthynas â theulu neu ffrindiau gan na fyddwch yn gallu treulio cymaint o amser yn eu cwmni, a gall rhai o’u hanghenion a’u pryderon fynd yn ddisylw.

Unwaith y bydd eich ‘claf’ wedi mynd heibio’r cam cronig, mae’n bosibl y bydd yn dechrau teimlo ychydig yn well ond ei fod/bod yn cael diwrnodau da a diwrnodau gwael, a gall eich rhyddhad o weld y gwelliant yma gael ei ddifetha rywfaint gan rwystredigaeth a straen natur annarogan y salwch.

Mae’r heriau’n niferus, ond gall gofalu hefyd ddod â sawl gwobr a gall gryfhau perthynas, a hynny gyda’r person ag ME ac o fewn y teulu. Dyma rai pethau y gellwch eu gwneud a all fod o gymorth i chi yn eich rôl fel gofalwr:

  • Mynnwch wybodaeth am ME a’r ffyrdd gwahanol y gall effeithio ar bobl.
  • Ystyriwch eich hun fel rhan o’r ‘tîm rheoli’ a byddwch yn barod i chwarae rhan yn y broses penderfynu lle bo hynny’n addas, gan helpu eich ffrind neu berthynas i ddeall a gwneud penderfyniadau am ei (g)ofal.
  • Eglurwch y sefyllfa wrth eich teulu a’ch ffrindiau, gan eu cynnwys yn rhwydwaith cefnogi’ch anwylyn.
  • Edrychwch ar ôl eich iechyd eich hun; cofrestrwch fel gofalwr gyda’ch meddyg teulu.
  • Ceisiwch gael amser i chi’ch hun fel y gellwch adnewyddu’ch egni.
  • Cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol a gofynnwch am asesiad gofalwr – er bod gennych hawl gyfreithiol i’r asesiad hwn, does dim raid i’r awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau ar eich cyfer. Gan ddibynnu ar nawdd, gall yr awdurdod lleol gynnig peth cymorth ymarferol, fel gofal seibiant, neu efallai y byddan nhw’n gallu’ch cyfeirio at asiantaethau eraill megis Croesffyrdd, a.y.b.
  • Dywedwch wrth eich cyflogwr fod gennych hawl i ‘addasiad rhesymol’ a all gynnwys gweithio’n rhan amser, oriau hyblyg, amser i ffwrdd i fynd gyda’r claf i apwyntiadau ysbyty, a.y.b.
  • Gwnewch gais am unrhyw fudd-daliadau rydych yn gymwys ar eu cyfer a chysylltwch â’r grŵp gofalwyr lleol i gael gwybodaeth am y cynlluniau cefnogi lleol sydd ar gael, e.e. cludiant, cynlluniau bydis, cynlluniau rhybudd argyfwng.
  • Defnyddiwch wasanaethau gofal seibiant, os ydyn nhw ar gael.
  • Rhannwch brofiadau gyda gofalwyr eraill trwy gyfrwng grwpiau cefnogi lleol, fforymau ar-lein, a.y.b.

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.