Cynadleddau a gweminarau

Ychydig iawn o gynadleddau ar ME a CFS wedi’u hanelu at weithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

Mae Invest in ME yn rhedeg cynhadledd flynyddol yn Llundain bob mis Mai. Mae’r siaradwyr yn ymchwilwyr a chlinigwyr enwog o bedwar ban byd. Gall cynadleddwyr dderbyn disgownt os ydyn nhw’n cael eu noddi gan grŵp ME. Cysylltwch â Jan os hoffech i WAMES eich noddi. Gellir llwytho adroddiadau am y cynadleddau i lawr a gellir archebu DVDau o anerchiadau cynadleddau blaenorol gan Invest in ME.

Darllenwch sylwadau meddyg teulu a fynychodd y gynhadledd yn 2010.

Weithiau mae’n bosibl gwylio podlediad byw o gynhadledd neu seminar, neu weminarau ar-lein wedi’r digwyddiad:

CFIDS Association of America webinars

Comments are closed.