ME a CFS – ffeithiau a ffigurau

1. Mae ME (Enseffalomyelitis Myalgig) yn cael ei ddosbarthu gan Fudiad Iechyd y Byd fel cyflwr niwrolegol yn ICD-10 G93.3 a gall fod yn anwadal, parhau am y tymor hir ac achosi analluogrwydd.

2. Mae cleifion yn ffafrio’r term ME. Mae’r proffesiwn meddygol yn defnyddio CFS neu Syndrom Lludded Cronig. Mae CFS yn derm ymbarél ar gyfer nifer o gyflyrau sydd â lludded fel eu prif symptom. Mae’r termau ME/CFS a CFS/ME hefyd yn cael eu defnyddio.

3. Mae mynychder achosion o ME a CFS, yn seiliedig ar ymchwil o 2004, yn 0.2 – 0.4% o’r boblogaeth. Felly, amcangyfrifir bod yna 12,000 o gleifion yng Nghymru a 250,000 yn y DU. Mae tua 10% o’r cleifion yn blant dan 16 oed. Mae ME a CFS yn effeithio ar bobl o bob dosbarth, oedran a grŵp ethnig. Credir bod menywod yn gor-rifo gwrywod o 2:1. Mae nifer yr achosion blynyddol yn 1,300 yng Nghymru.

4. Mae tua 25% yn cael eu heffeithio’n ddifrifol, gan fod un ai’n gaeth i’r tÅ· neu’r gwely ac yn analluog i ofalu amdanynt eu hunain.

5. Ar hyn o bryd, does yna ddim un achos unigol adnabyddadwy, er bod nifer o sbardunau wedi’u nodi, megis firysau, brechiadau, tocsinau a phlaleiddiaid. Yn aml, bydd cleifion yn cael diagnosis o Syndrom Lludded Ôl-Firol (PVFS) os bydd sbardun firol yn cael ei nodi.

6. ME/CFS ydy’r achos mwyaf cyffredin o absenoldeb tymor hir ymysg plant ysgol: 51% o gymharu â 23% ar gyfer cancr a lewcemia, 13% ar gyfer cyflyrau meddygol neu lawfeddygol cyffredinol, 12% ar gyfer problemau cyhyrysgerbydol, 5% ar gyfer aflonyddwch seiciatrig a 5% ar gyfer heintiau firysol. (Dowsett & Colby)

7. Credir bod diagnosis cynnar a chyngor rheoli priodol yn gwella’r siawns o wella. Nes bydd prawf diagnostig ar gael, mae’n rhaid i’r diagnosis gael ei wneud trwy adnabod patrwm y symptomau a diystyru cyflyrau eraill. Mae’n anodd dod o hyd i’r diagnosis cywir yng Nghymru.

8. Nodwedd nodedig ME ydy bod y symptomau’n gwaethygu ar ôl ymdrech gorfforol a meddyliol, er y gall fod oedi o ddiwrnod neu fwy yn yr adwaith (ymateb ôl-ymdrech) a gall dychweliad i lefel flaenorol o iechyd fod yn anwadal. Dyma’r prif symptomau:

  • symptomau tebyg i ffliw difrifol
  • dolur gwddw
  • poenau yn y cyhyrau a’r cymalau
  • namau gwybyddol megis canolbwyntio gwael, problemau cof ac anawsterau dod o hyd i eiriau, ymysg symptomau eraill
  • cwsg aflonydd, cwsg anadnewyddol
  • colli stamina corfforol a meddyliol, a hynny’n anarferol, a’r adferiad yn araf
  • aflonyddiad yn nhymheredd y corff
  • penysgafnder a phendro
  • chwarennau chwyddedig
  • cur pen sy’n newydd o ran ei batrwm, ei fath neu ei ddifrifoldeb

Gall symptomau ychwanegol gynnwys:

  • sensitifrwydd i olau, sŵn, rhai meddyginiaethau, alcohol, cemegion
  • pwys, colli archwaeth, aflonyddiad yn y system dreulio
  • gall symptomau cychwynnol plant fod yn boenau stumog a chur pen
  • mae symptomau difrifol yn cynnwys llewygu, parlys rhannol dros dro, colli lleferydd, colli’r gallu i lyncu.

9. Mae cynnydd yn anodd ei ddarogan. Mae canran fechan o bobl yn gwella’n llwyr dros amser ond yn dal i dueddu i ailwaelu e.e. pan fyddan nhw’n cael haint. Mae rhai’n cyrraedd 70-80% o’u lefel iechyd flaenorol ac yn gallu byw bywyd ‘normal’ gyda rhai addasiadau, megis colli bywyd cymdeithasol neu weithio’n rhan amser yn unig, er y gall gymryd rhai blynyddoedd i lwyddo yn hyn o beth. Mae’r mwyafrif yn dilyn patrwm newidiol, gyda chyfnodau iechyd da a drwg. Er nad yn anhysbys, mae dirywiad parhaus yn anghyffredin. Mae gan tua 25% o ddioddefwyr analluogrwydd difrifol, ac mae’n rhaid iddynt gael gofal a chefnogaeth barhaus. Mae pobl ifanc dan 20 oed yn fwy tebygol o wella nag oedolion, ond mae rhai plant yn parhau’n wael fel oedolion.

10. Ar hyn o bryd, does dim gwellhad na thriniaeth, ac efallai na fydd yr hyn sy’n helpu un person o unrhyw les i berson arall. Yr hyn sydd i’w weld yn helpu fwyaf yng ngham cynnar ‘llym’ yr afiechyd ydy gorffwys.

11. Mae arolygon cleifion yn dangos mai cymryd pwyll ydy’r dull mwyaf defnyddiol o reoli’r salwch. Mae meddyginiaeth, newidiadau i ffordd o fyw, deiet a therapïau cyflenwol hefyd yn helpu i liniaru symptomau.

12. Mae canllawiau NICE yn argymell Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a Therapi Ymarfer Graddedig (GET) ar gyfer cleifion sydd wedi’u heffeithio’n ysgafn neu’n gymedrol yn unig, er y cydnabyddir bod y dystiolaeth yn brin. Mae profiad cleifion a darganfyddiadau ymchwil biofeddygol wedi amlygu anaddasrwydd a pherygl posibl GET ar gyfer pawb ag ME.

13. Mae ymchwil wedi darganfod tystiolaeth o gamweithrediad genynnol a chamweithrediad yn llawer o systemau’r corff, yn cynnwys y system imiwnedd, y system niwroendocrin, y system nerfol awtonomig a’r cyhyrau.

14. Roedd astudiaeth yn 2007 wedi cyfrifo bod effaith economaidd ME ar y DU yn £6.4 biliwn y flwyddyn, er bod y gost yn nhermau colled personol – yn ariannol ac yn emosiynol – yn anfesuradwy i’r rhai â’r cyflwr, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau.

15. Does dim arbenigwyr ME na CFS yng Nghymru, ac ychydig iawn o hyfforddiant sy’n cael ei roi i weithwyr iechyd neu staff perthynol, os o gwbl. Ym mis Mehefin 2010, dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y byrddau iechyd lleol am ddatblygu gwasanaethau ar gyfer pobl â CFS/ME.

16. Yn 2011, am y tro cyntaf, cynigiodd y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) £1.5 miliwn i noddi ymchwil newydd i fecanweithiau CFS/ME.

17. Oherwydd diffyg dealltwriaeth o natur a difrifoldeb ME a CFS, mae cleifion a’u teuluoedd yn gallu wynebu anawsterau gyda’r canlynol:

  • Yr hawl i addysg addas pan fydd addysg rhan amser neu wersi yn y cartref yn cael eu gwrthod.
  • Pan fydd rhieni plant ag ME yn cael eu hamau o achosi niwed i’w plentyn am nad ydy’r plentyn yn gwella fel y dylai.
  • Pan na fydd cyflogwyr yn gwneud ‘addasiad rhesymol’ o dan Deddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer eu gweithwyr ag ME.
  • Yr hawl i fudd-daliadau.
  • Yr hawl i ofal cymdeithasol.

Fev 2012

Yn ôl i’r brig

 

Comments are closed.