Syniadau codi arian egni isel

  • Gwerthwch bethau nad oes mo’u hangen arnoch ar eBay
  • Gofynnwch i ffrindiau a theulu eich noddi i:

gadw’n dawel am ddiwrnod

eillio’ch pen neu lifo’ch gwallt yn las

rhoi’r gorau i siocled, teledu, tecstio, a.y.b.

  • Rhestr dymuniadau pen-blwydd – gofynnwch i bobl roi arian tuag at eich hoff achos yn hytrach na phrynu anrheg ar eich cyfer
  • Bore coffi moes a phryn lyfr – gwahoddwch ffrindiau a chymdogion draw am goffi a chacennau cartref. Gofynnwch i bawb ddod â llyfrau clawr meddal, CDau neu DVDau ail-law da y gellir eu gwerthu am 50c neu £1 yr un. Gallech hefyd godi ffi mynediad fechan.
  • Gofynnwch i grŵp cymunedol neu grŵp ffydd lleol drefnu digwyddiad codi arian neu i fabwysiadau WAMES am fis neu flwyddyn. Gallai’r grwpiau gynnwys y Rotari, y Cylch Merched, y Soroptomistiaid, grwpiau merched eglwys, corau, grwpiau ffitrwydd neu chwaraeon, Sefydliad y Merched neu glybiau garddio neu ffotograffiaeth.
  • Defnyddiwch eich hobi i godi arian: gwnewch gardiau cyfarch, tyfwch blanhigion o hadau, gwnewch gyffug neu beli (truffles).

Yn ôl i’r brig

 

Comments are closed.