Dr Betty Dowsett MB ChB DipBact    1920-2012

Ganwyd Dr Betty Dowsett yng Nghasnewydd, Gwent, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Gweithiodd fel meddyg teulu yn Llundain, yna, yn dilyn astudiaethau pellach, aeth yn ficrobiolegydd ymgynghorol. Cronnodd arbenigedd mewn ME, gan weld miloedd o bobl gydag ME o’r 1960au ymlaen wrth iddi weithio gyda Dr John Richardson a Dr. Melvin Ramsey. Roedd hi’n allweddol yn y gwaith o sefydlu’r clinig ME cenedlaethol yn Essex gyda’r Athro Leslie Findley. Parhaodd i ddarlithio a chynghori cleifion a gweithwyr proffesiynol ynglŷn ag ME wedi iddi ymddeol. Yn 2001, Dr Dowsett oedd y prif siaradwr pan lansiwyd WAMES yn y Cynulliad, ac mae hi wedi parhau i fod yn ymgynghorydd i ni.

Llyfryddiaeth:

Mae Dr Margaret Wright yn archwilio gwaith ymchwil Dr Betty Dowsett:  Questions hold the key to secret of post-viral fatigue cases

Comments are closed.