Beth ydy ME?

Mae ME yn gyflwr niwrolegol anwadal sy’n effeithio ar yr ymennydd ar lefel gorfforol, meddyliol ac emosiynol. Mae ymchwil wedi dod o hyd i dystiolaeth o ddiffyg genynnol sy’n effeithio ar nifer o systemau’r corff, yn cynnwys y system imiwnedd, y system niwroendocrin, y gyfundrefn nerfol awtonomig a’r cyhyrau. Gall gael effaith dymor hir ac achosi analluogrwydd mewn pobl o bob oed, rhyw a grŵp ethnig. Mae gan tua 12,000 o bobl yng Nghymru y cyflwr – mae 10% yn blant dan 16 oed.

Beth ydy ei enw?

Does yna ddim cytundeb ynglÅ·n â beth y dylid galw’r cyflwr, ac mae yna nifer o enwau’n cael eu defnyddio:

ME – Enseffalomyelitis Myalgig [yr enw gwreiddiol, sy’n parhau i gael ei ffafrio gan lawer] neu Enseffalopathi Myalgig [a ystyrir gan rai i fod yn fwy cywir]

CFS – Syndrom Lludded Cronig [a ddefnyddir gan y proffesiwn meddygol fel enw arall yn lle ME neu fel term ymbarél ar gyfer salwch sydd â lludded yn brif symptom]

CFIDS – Syndrom Camweithrediad Imiwn Lludded Cronig [a ddefnyddir yn UDA]

ME/CFS neu CFS/ME [a ddefnyddir fel cyfaddawd neu pan fo angen consensws]

Dydy ME na CFS ddim yr un fath â lludded cronig (sy’n symptom y gellir dod o hyd iddo mewn nifer o gyflyrau gwahanol) na TATT (Blinedig Trwy’r Amser/Tired All The Time).

Beth sy’n ei achosi?

Ar hyn o bryd, does yna ddim un achos amlwg, er, mewn llawer o gleifion, mae’n ymddangos mai firws sy’n ei gychwyn, gan weithiau olygu bod y diagnosis cychwynnol yn un o Syndrom Lludded Ôl-Firol (Post Viral Fatigue Syndrome, PVFS). Mae achosion eraill yn cynnwys rhai brechiadau penodol, tocsinau, effaith plaleiddiaid a’r digwyddiadau mawr hynny mewn bywyd sy’n achosi llawer o straen. Ymddengys bod y rhain yn gallu ‘achosi’r’ salwch, ond, yn fwy na thebyg, un ffactor yn unig ydyn nhw sy’n cyfrannu tuag at rywun yn mynd yn sâl. Mae ymchwil yn graddol ddarganfod beth sy’n mynd o’i le yn y corff, ond mae’n parhau’n aneglur o hyd beth ydy’r achos gwaelodol.

Beth ydy’r symptomau?

Ar y cychwyn, mae oedolion yn tueddu i gwyno o salwch tebyg i ffliw trwm, sy’n waeth ac yn parhau’n hwy na dos o ffliw, gyda dolur gwddw a chwarennau chwyddedig, poenau yn y cyhyrau a’r cymalau, niwlogrwydd meddyliol, cwsg aflonydd, lludded a nifer o symptomau eraill. Mae plant a phobl ifanc yn cael symptomau tebyg ond gallan nhw gael mwy o gur pen, patrymau cwsg amharedig a phroblemau stumog. Dros amser, mae patrwm y salwch yn gallu newid.

Mae gan nifer o gyflyrau meddygol eraill symptomau tebyg, sy’n peri bod diagnosis yn her, ond yr hyn sy’n nodedig am ME ydy bod y symptomau’n gwaethygu ar ôl ymdrech gorfforol neu feddyliol, er y gall yr adwaith gael ei ohirio am ddiwrnod neu fwy (ymateb ôl-ymdrech) a gall dychweliad i lefel flaenorol o iechyd fod yn annaroganadwy. Mae’r symptomau’n anwadal, a gellir cael cyfnodau o wella ac ailwaelu, gan achosi dryswch a rhwystredigaeth i’r cleifion a’u teuluoedd fel ei gilydd.

Pa mor hir mae’n parhau?

Mae’n anodd darogan cynnydd. Mae canran fechan o bobl yn gwella’n llwyr dros amser. Mae rhai yn cyrraedd 70-80% o’u lefel iechyd flaenorol ac yn gallu byw bywyd ‘normal’ gydag addasiadau, er y gall hyn gymryd rhai blynyddoedd. Mae’r mwyafrif yn dilyn patrwm anwadal, gyda chyfnodau o iechyd da ac iechyd gwael. Er heb fod yn anhysbys, mae dirywiad parhaol yn anghyffredin. Mae tua 25% yn aros yn ddifrifol anabl ac mae angen gofal a chefnogaeth barhaol arnynt. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o wella nag oedolion, ond mae rhai plant yn aros yn wael nes cyrraedd oedolaeth.

Oes yna wellhad?

Ar hyn o bryd, does yna ddim gwellhad na thriniaeth, ac efallai na fydd yr hyn sy’n helpu un person o unrhyw help i berson arall. Efallai mai’r rheswm am hyn ydy bod yna nifer o gyflyrau gwahanol â symptomau tebyg (mae ymchwilwyr yn sôn am ‘is-grwpiau’ CFS) a’r rheini angen triniaeth wahanol o bosibl. Yr hyn sy’n ymddangos o gymorth i’r mwyafrif yng ngham cynnar ‘llym’ y salwch ydy gofalu gorffwyso digon a pheidio â rhuthro’n ôl i’r gwaith neu’r ysgol yn rhy fuan. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dysgu ‘rheoli’ eu cyflwr trwy gyfuniad o ddulliau a all gynnwys pennu’r cyflymder o wneud pethau, meddyginiaeth, newidiadau i’w ffordd o fyw, deiet a therapïau cyflenwol.

Yn ôl i’r brig

Comments are closed.