Neges gan ein noddwr
Mae ME yn gyflwr cymhleth sy’n gallu cael effaith ddinistriol ar oedolion a phlant a’u teuluoedd. Mae rhywun yn teimlo’n ostyngedig iawn wrth glywed am ludded llwyr a gofid parhaus y sawl sydd ag ME. Mae dyngarwch y sefyllfa yn hanfodol yn hyn i gyd. Ac felly mae diagnosis cyflym a chyngor rheoli gwybodus gan y proffesiwn meddygol yng Nghymru yn flaenoriaeth. Mae gwaith ymgyrchu WAMES yn gynyddol bwysig.
Mae yna lawer o gamddealltwriaeth o hyd ynglĹ·n â natur a difrifoldeb ME a’r driniaeth ar ei gyfer, felly rwy’n llwyr gefnogi’r weledigaeth o:
‘Gymru lle mae oedolion a phlant ag ME a CFS a’u gofalwyr yn cael eu cymryd o ddifrif a’u trin â pharch, a lle mae diagnosis, triniaeth a gwasanaethau ar gael heb orfod brwydro amdanynt’.
Mae’r cynnydd wedi bod yn araf, ond rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â chi ac â gwaith mor bwysig. Boed i chi lwyddiant ac anogaeth yn y blynyddoedd nesaf hyn o ymgyrchu. Pob dymuniad da i bawb yn rhwydwaith WAMES.
Pen-blwydd Hapus yn 10 oed WAMES!
Arglwydd Barry Jones, Penarlâg, Sir y Fflint  Mai 2011