Ein gweledigaeth a’n nod
Ein gweledigaeth
ydy cael Cymru lle mae oedolion a phlant ag ME a CFS a’u gofalwyr yn cael eu cymryd o ddifrif a’u trin â pharch, a lle mae diagnosis, triniaeth a gwasanaethau ar gael heb orfod brwydro amdanynt
Ein nod
Mae Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru yn elusen sy’n rhoi llais cenedlaethol i bobl ag ME a CFS yng Nghymru, eu gofalwyr a’u teuluoedd er mwyn gwella gwasanaethau, mynediad i wasanaethau, ymwybyddiaeth a chefnogaeth.
Rydyn ni’n gwneud hyn trwy:
- ymgyrchu dros gydnabyddiaeth fod ME yn salwch niwrolegol, yn unol â dosbarthiad MIB (Mudiad Iechyd y Byd) a chanlyniadau ymchwil biofeddygol
- ymgyrchu dros wasanaethau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol addas, budd-daliadau ac ymchwil
- codi ymwybyddiaeth o ME
- cynnig cefnogaeth i bobl ifanc ag ME
- darparu gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pobl ag ME, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol
- cynorthwyo grwpiau cefnogi lleol
 Noddwr: Arglwydd Barry Jones