Polisi hygyrchedd
Mae WAMES yn anelu at wneud ein gwefan yn hawdd ei defnyddio ac yn hygyrch i bobl ag ME, eu cyfeillion, eu gofalwyr a’u teuluoedd trwy ddefnyddio:
- iaith eglur, syml y gellir ei deall yn hawdd, sy’n osgoi’r defnydd o jargon ac sy’n egluro unrhyw dermau technegol
- dyluniad sy’n cynnwys paragraffau byr, pwyntiau bwled i dorri’r testun, penawdau i roi strwythur i’r testun a thudalennau byr er mwyn gwneud tudalennau’n haws eu dilyn
- cefndiroedd plaen i dudalennau fel nad ydy sylw’n cael ei dynnu oddi ar y testun
- cyferbyniad lliw sy’n galluogi pobl â phroblemau golwg i wahaniaethu rhwng mathau gwahanol o gynnwys
- delweddau gyda theitlau disgrifiadol ac/neu fanylion ysgrifenedig ychwanegol
- cysylltau hawdd eu dilyn sy’n nodi’r dudalen y cysylltir â hi yn eglur