Chwe myth a ffeithiau y dylai pawb eu gwybod am Myalgic Encephalomyelitis (ME)
Mae Myalgic encephalomyelitis (ME), a elwir hefyd yn ME/CFS, yn salwch gwanychol sy’n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd. Fodd bynnag, mae mythau a chamddealltwriaethau parhaus yn rhwystro ei adnabod a’i drin.
Ar gyfer Diwrnod ME y Byd ar 12 Mai 2025 mae WAMES yn ymuno â Chynghrair ME y Byd (WMEA) a gwledydd ledled y byd i chwalu chwech o’r mythau mwyaf cyffredin am ME a rhannu’r ffeithiau meddygol y dylai pawb eu gwybod.
Heriwch y mythau, hyrwyddwch y ffeithiau!
Yn y cyfnod cyn Diwrnod ME y Byd byddwn yn rhyddhau delweddau i’w rhannu.
Myth: Mae ME yn gyflwr iechyd meddwl
Ffaith: Mae ME yn salwch biolegol sy’n tarfu ar y metaboledd ac yn effeithio’r ymennydd, y system imiwnedd a’r system nerfol awtonomig
Myth: Mae ME yn ymwneud â theimlo’n flinedig
Ffaith: Symptom diffiniol ME yw Anhwylder Ôl-Ymarfer (PEM)— symptomau sy’n gwaethygu’n eithafol ar ôl hyd yn oed fân ymdrech gorfforol neu feddyliol
Myth: Gallwch ymarfer corff fel ffordd i wella o ME
Ffaith: Gall ymarfer corff fod yn beryglus i bobl ag ME. Yn wahanol i gyflyrau cronig eraill lle gall ymarfer corff helpu, mae rhaglenni ymarfer corff strwythuredig yn aml yn gwaethygu symptomau ME wrth i gleifion wthio eu hunain yn rhy bell yn y pen draw
Myth: Dim ond rhai grwpiau o bobl all ddatblygu ME
Faith: Mae ME yn effeithio ar bobl o bob hil, rhyw, oedran a chefndir economaidd-gymdeithasol
Myth: Ni all meddygon helpu pobl ag ME
Ffaith: Gall meddygon helpu pobl i reoli symptomau ME Er nad oes iachâd ar gyfer ME, mae yna ffyrdd tosturiol o helpu cleifion i reoli eu symptomau, yn ogystal â rheoli egni i atal PEM
Myth: Mae COVID Hir yn hollol wahanol i ME
Ffaith: Mae gan lawer o gleifion COVID Hir symptomau sy’n cyfateb i ME. Ers y pandemig COVID-19, mae ymchwilwyr wedi canfod bod nifer fawr o bobl â COVID Hir parhaus yn bodloni’r meini prawf diagnostig ar gyfer ME
#WorldMEDay #MyalgicE #MEAwareness