Pobl ifanc

Wyt ti’n 26 oed neu iau?

Hoffet ti fod mewn cysylltiad â phobl ifanc eraill ag ME yng Nghymru?

Hoffet ti wybod beth sy’n digwydd ar gyfer pobl ifanc ag ME (da a drwg)?

Hoffet ti? Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn ychwanegu erthyglau am Addysg, Byw gydag ME, Gofalwyr ifanc, Iechyd a gofal cymdeithasol, Hwyl a chwerthin, Gwybodaeth leol, a.y.b.

Rho wybod i Michelle, ein Cyswllt Pobl Ifanc, os hoffet ti dderbyn ein cylchlythyr (yn rhad ac am ddim) neu os hoffet ti ychwanegu unrhyw beth at y tudalennau yma.

Hoffem glywed gennyt. Anfon dy storïau, cwestiynau, jôcs, posau, barddoniaeth, graffigwaith, syniadau am gynnwys, a.y.b. atom.

Edrych ar ein Cyflwyniad i ME ar gyfer plant a mynna wybodaeth am ein grwpiau cefnogi.

Byddwn ni hefyd yn ychwanegu gwybodaeth ar gyfer dy rieni, dy deulu a’th ofalwyr. Gallan nhw gysylltu â Sylvia, ein Swyddog Ieuenctid a Gofal, am sgwrs neu fwy o wybodaeth.

Comments are closed.