Mae Innovait, y cylchgrawn i Gysyllteion mewn Hyfforddiant (AiT’s) Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, wedi cyhoeddi erthygl ar Chronic Fatigue Syndrome yn pwysleisio rôl Meddygon Teulu mewn gwneud deiagnosis cynnar a rhoi cyngor ar sut i ireoli CFS. Mae’n gwrthod dosbarthiad CFS fel cyflwr niwrolegol a siarada am bobl gyda hanes o lesgedd cronig fel rhai â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Meddygon Teulu yn cael eu hannog i:

  • gymryd hanes bioseicogymdeithasol manwl i ddarganfod ffactorau fyddai’n debygol o ganiatau’r cyflwr i barhau, ac i amlygu disgwyliadau ac amcanion y claf
  • gwirio am salwch seicolegol tra’n osgoi’r arfer o wirio’n eang am salwch corfforol
  • osgoi cyfeirebu eang amhriodol i glinigau meddygol arbenigol.
  • dangos eich bod yn eu credu hwy
  • delio’n gynnar gyda gallu claf i barhau mewn gwaith neu addysg
  • canolbwyntio ar reoli symptomau a gwella gweithrediad
  • cynghori cleifion i beidio â gwneud gweithgaredd egniol di-strwythur a heb oruchwyliaeth tebyg i “fynd i’r gampfa” neu “ymarfer mwy”
  • cynghori cleifion i gyfyngu cyfnodau o orffwys i 30 munud ar y tro i osgoi gorwedd am gyfnod hir
  • annog cleifion sy’n dioddef atgwymp i ‘gynnal gweithgaredd a lefelau ymarfer yn ystod y fath anhawster. Mae’n amheus a fyddai cleifion o’r fath yn elwa o fewnbwn arbenigol pellach
  • cynghorwch fod ‘CBT a GET yn gallu cael eu defnyddio’n ddiogel a fod CBT a GET yn driniaethau mwy effeithiol na APT neu ofal meddygol arbenigol’
  • helpwch hwy i wneud cais am ‘addasiadau ac offer addas
  • gwnewch yn siĹľr fod cleifion yn derbyn eu haeddiannau budd-dâl llawn
  • cyfeirwch blant i wasanaeth pediatrig (ar Ă´l i symptomau fod yn bresennol am 6 wythnos)

 

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.