Wythnos Gwirfoddolwyr  1-7 Mehefin – amser i ddweud Diolch!

 

Mae WAMES yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr

Mae pobl yn dewis gwirfoddoli am nifer o resymau gwahanol. Mae’n rhoi’r cyfle i rai i rhoi nôl i’r gymuned neu i wneud gwahaniaeth i’r bobl o’u cwmpas. I rai eraill mae’n darparu cyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau newydd neu i adeiladu ar ei sgiliau a’u gwybodaeth bresennol. Dyma rhai o wirfoddolwyr WAMES yn rhannu pam maent wedi dewis gwirfoddoli:

Meddi Sharon

“Yn anffodus mae angen i ni frwydro o hyd ar gyfer gwasanaethau i’r rhai sydd ag ME yng Nghymru yn ogystal ag ymgyrchu am ymwybyddiaeth well a mwy o ymchwil i’r salwch gwanychol hon. Mae gwirfoddoli yn rhoi’r cyfle i mi i droi rhywbeth negyddol (dioddef o ME) i mewn i rywbeth positif drwy helpu pobl eraill. Trwy wirfoddoli, rwyf hefyd wedi gwneud llawer mwy o ffrindiau. Mae’n gymorth i mi gael rhwydwaith o bobl sy’n deall yr heriau dyddiol rwy’n wynebu ag ME. Rwyf wedi gwirfoddoli gyda WAMES ers rhyw 20 mlynedd, yn gyntaf trwy godi ymwybyddiaeth, yna codi arian a nawr fel Cydlynydd Gwirfoddoli a Swyddog Cynorthwyo Gwirfoddoli.”

Meddai Tony:

“Fel gofalwr fy ngwraig ers dros 35 mlynedd, mae gen i edmygedd anferthol tuag at y ffordd mae hi wedi brwydro i hybu ymwybyddiaeth gynyddol o ME a’r angen i sicrhau triniaeth addas a phriodol yng Nghymru. Gan ei bod hi’n sâl iawn gydag ME ei hunan, roeddwn yn teimlo fod rhaid i mi wneud popeth y gallwn wneud i gynorthwyo hi gyda’i gwaith gyda WAMES. Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweithio mewn nifer o rolau megis Cadeirydd, Ysgrifennydd, Swyddog Cyhoeddiadau a Chynlluniwr Cylchgrawn, yn ogystal â hyn rwyf wedi bod yn cymryd cofnodion cyfarfodydd, dylunio pamffledi a gweithio ar y wefan.”

Diolch yn fawr iawn i’n holl wirfoddolwyr!

meddai Mia sy’n rheoli cyfrif Instagram WAMES:

“Rwy’n gwirfoddoli oherwydd mae’n caniatáu i mi rannu pethau gyda phobl byddwn i wedi hoffi clywed pryd roeddwn yn dioddef ag ME. Mae teimlo fel nad ydych ar eich pen eich hun ar adegau yn gallu gwneud pethau’n haws felly rwy’n gobeithio fy mod yn gallu gwneud hynny i bobl eraill!”

Meddai Jan, Cadeirydd WAMES:

“I mi, mae WAMES yn ‘harbwr diogel’ i wirfoddolwyr. Cymrodd hi flynyddoedd i mi dderbyn nad yw fy ymennydd â’n nghorff yn gallu ymdopi mewn sefyllfa gyflogedig bellach. Mae’n parhau i fod yn siom i golli cyfle da, dyddiad terfyn neu gwblhau tasg. Mae’n dda i wybod fy mod yn gallu gweithio o fewn tîm sydd yn deall mai gyda’n gilydd gallwn gyflawni rhywbeth defnyddiol o hyd.”

WAMES – Gweithio er budd ME yng Nghymru

Mae WAMES yn elusen genedlaethol ond gan fod y gwaith yn bennaf ar lein, gall ein gwirfoddolwyr fod yn unrhyw ran o Gymru.

Mae cyfraith elusennau wedi tyfu dros y 30 mlynedd diwethaf ac mae yna nifer o reolau y mae’n rhaid dilyn, sydd ar adegau yn gallu teimlo fel baich pryd rydych yn ceisio cyflawni rhywbeth da i gynorthwyo pobl, ond maen nhw’n hanfodol i amddiffyn pobl ac atal arian rhag cael ei dwyn.

Mae hyn yn golygu fod yna nifer o rolau cynorthwyol wrth gefn ein mudiad i wirfoddolwyr ym maes cyllid a llywodraethu, hyd yn oed i elusennau bychan megis WAMES ac nid yw’r rolau yma o hyd yn hawdd i’w llenwi.

Mae gwirfoddoli am rhai oriau mewn mis yn gytundeb amser bychan i unigolyn sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’n gallu ni i gynnal gweithgareddau WAMES.

Diolch hefyd i’n gwirfoddolwyr “camau bychan” sy’n cyfrannu mewn ffyrdd bychan heb wirfoddoli yn swyddogol.

Ar hyn o bryd mae WAMES yn edrych am wirfoddolwyr ar gyfer y rolau canlynol:

Gwirfoddolwr WordPress/TG
– i helpu ailgynllunio a diweddaru ein gwefan

Trysorydd
– mae gennym drysorydd dros dro, ond mae gwir angen un tymor hir arnom

Gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg
– byddai llawer o wirfoddolwyr yn gweithio mewn tîm yn lleddfu’r baich i bawb!

Gwirfoddolwyr codi arian

Gwirfoddolwyr gweinyddol

Gallwch CHI helpu? Eefallai fod yna ffyrdd arall i chi helpu ein gwaith, felly holwch os gwelwch yn dda. Os hoffech wirfoddoli gyda WAMES yna os gwelwch yn dda cysylltwch â sharon@wames.org.uk

 

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Comments are closed.