Fedrwch chi helpu WAMES egluro i gomisiynwyr gwasanaethau a doctoriaid sut beth ydi o i fod hefo ME? Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi dechrau datblygu gwasanaethau ac mae WAMES yn siarad hefo’r bobl sy’n gyfrifol amdanynt. Un o’r pethau rydym yn ceisio eu cael hwy i ddeall ydi nad ydi ME yn gyfystyr â blinder yn unig; fod llawer o symptomau gwael a fod y blinder yn rhan o deimlo’n sâl a gwan, nid teimlo’n flinedig yn unig. Byddai’n fy helpu i gael rhai ‘astudiaethau achos’ i fynegi’r pwyntiau hyn.

Gyrrwch baragraff os gwelwch yn dda yn rhestru’r symptomau a ddisgrifioch chi i’ch doctor yn y blynyddoedd cynnar a’r effaith a gawsant ar eich bywyd. Nid ydym angen traethawd fyddai’n ennill gwobrau ac nid oes rhaid iddo fod yn hir. Bu i lawer ohonom ymdrechu i egluro’n glir i’r Meddyg Teulu sut oeddem yn teimlo, felly, byddai ambell frawddeg di-gyswllt yn rhoi dealltwrieaeth da o’r sialens sy’n wynebu Meddygon Teulu. Ychwanegwch enw bedydd os gwelwch yn dda, i adnabod eich paragraff – nid oes rhaid iddo fod eich enw iawn – a’r sir rydych yn byw ynddi. Os hoffech ychweanegu mwy am eich profiadau gyda doctoriaid, triniaethau, budd-daliadau, ysgol, cyflogaeth ayb, gwnewch hynny, os gwelwch yn dda. Mae’n werthfawr bob amser cael esiamplau o fywyd go iawn pan yn ymgyrchu.

Ynghyd â defnyddio’r wybodaeth gyda chomisiynwyr gwasanaethau, rwy’n gobeithio cynhyrchu taflen wybodaeth sy’n cynnwys rhai o’r ‘astudiaethau achos’ a’i rhoi ar y wefan. Byddai’ch enw iawn yn cael ei gadw’n gyfrinachol. Gyrrwch hwy i Jan.

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.