Mae papur newydd yr Observer yn adrodd fod deuddeg doctor sy’n cael eu cyflogi gan gwmni sy’n cael ei dalu £100m y flwyddyn i asesu pobl sy’n hawlio budd-dâl anabledd yn cael eu harchwilio gan y GMC (General Medical Council) oherwydd cyhuddiadau o ymddygiad anaddas.  Mae’r doctoriaid, sy’n gweithio i Atos Healthcare, cwmni â pherchnogion Ffrengig a gafodd ei feirniadu gan Aelodau Seneddol am ei weithredoedd, yn wynebu cael eu tynnu oddi ar y rhestr doctoriaid os darganfyddir na roddasant ofal cleifion yn flaenllaw.

Darganfyddasant hefyd fod saith o’r doctoriaid wedi bod dan archwiliad am dros saith mis.  Bu i’r pump arall gael eu rhoi dan archwiliad y flwyddyn hon, yn dilyn cwynion am eu hymddygiad.

Deellir fod y mwyafrif o gyhuddiadau ynghylch y driniaeth o bobl fregus pan wnaethpwyd yr “asesiadau gallu i weithio” dadleuol y llywodraeth, ond gwrthododd y GMC i wneud unrhyw sylwadau ar achosion unigol.

Yr erthygl llawn

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.