Mae ymgyrch wedi’i lansio gan gleifion gyda myalgic encephalomyelitis (ME) i godi ymwybyddiaeth a chyllid hanfodol ar gyfer canolfan llawn rhagoriaeth, y cyntaf o’i bath yn Ewrop.
Mae’r ganolfan yn bwriadu newid darganfyddiadau ymchwil bio-feddygol i mewn i driniaethau addas i gleifion hefo ME cyn gynted â phosib. Mi fydd yr ymchwil a gynigir y mwyaf datblygedig â phosib, gan ganolbwyntio ar imiwnoleg a firoleg, gan adeiladu ar y bas-data ymchwil a chaniatau cyd-weithio newydd hefo unedau ymchwil bio-feddygol eraill.
Mi fydd y ganolfan wedi’i lleoli ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich, gyda mynediad i adnoddau rhagorol y parc ymchwil ar y campws.
Caiff y cleifion sy’n cael eu gweld yn y ganolfan newydd eu hasesu yn ôl y safonau deiagnosio diweddaraf, a fydd yn rhoi deiagnosis positif, yn hytrach na deiagnosis drwy eithrio achosion eraill, yn ogystal â’r fantais o ddefnyddio mintai o gleifion wedi’i ddiffinio’n dda ar gyfer yr ymchwil ei hun.
Mae’r ymgyrch Let’s do it for ME wedi cael ei lawnsio gan Invest in MEÂ