The BBC report on AMs’ questions for Health Minister Lesley Griffiths, highlights the difficulties patients have in finding healthcare from knowledgeable professionals in Wales.

Health Minister’s questions on ME services 25 April 2012  (Questions about ME begin at 5mins 42 secs into the videoclip.)

“Yn ol AC Llafur Julie Morgan mae angen gwneud mwy i helpu dioddefwyr ME yng Nghymru gan eu bod nhw’n aml yn cael eu camddeall gan weithwyr proffesiynol heb wybodaeth arbenigol ynglyn â’r salwch.

Cytunodd y gweinidog iechyd bod na lawer o gamddealltwriaeth a bod angen gwneud mwy i wella dealltwriaeth.

Ond mynodd y gweinidog iechyd fod llawer o waith eisoes wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau, megis darparu gwasanaeth e-pecynnau a sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ymchwilio i’r broblem.

Gofynnodd AC Plaid Cymru Jocelyn Davies, i’r gweinidog os y byddai’r llywodraeth yn ystyried sefydlu clinig arbenigol i helpu’r 10,000 o ddioddefwyr yng Nghymru.

Fe wnaeth y gweinidog gytuno i ymgynghori â’r Byrddau Iechyd Lleol o ran y mater.”

NB WAMES has written to the Health Minister asking for more information about the e-learning package she mentioned.

 

 

 

 

 

This entry was posted in Newyddion and tagged . Bookmark the permalink.

Comments are closed.