Ymunwch â ni i godi ymwybyddiaeth o ME:
- Gwisgwch las ar y 12fed (un ai ruban glas neu ddillad glas) a byddwch yn barod i ddweud wrth bobl pam.
- Ymunwch â’n Digwyddiad ymwybyddiaeth ar Facebook (FB) a gwahoddwch eraill – rhowch wybod i ni am eich cynlluniau codi ymwybyddiaeth a phostiwch lun fel y gallwn ni i gyd rannu yn y digwyddiad.
- Dilynwch ni ar Twitter a thrydarwch am y materion sydd o bwys i bobl ag ME a CFS @WAMESMECFS
- Dywedwch wrth bobl am ein blog newyddion fel y gallan nhw ddarganfod beth sy’n digwydd yng Nghymru.
- Gosodwch google alert fel y gall Google eich ebostio pan fydd eitem o ddiddordeb yn ymddangos ar-lein – ac yna trosglwyddwch yr wybodaeth i bwy bynnag sydd angen gwybod!
- Peidiwch ag anghofio noddi El Jones i eillio’i phen ar y 12fed
- Wyddoch chi am weithiwr proffesiynol sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am ME? Gofynnwch iddynt gysylltu â Jan er mwyn cael gwybodaeth am rwydwaith y gweithwyr proffesiynol. Rhowch wybod iddynt am y gynhadledd IiME yn Llundain ar 1af Mehefin a sut y gallant dderbyn gostyngiad.