Cefnogaeth
Gall pobl ag ME a CFS fod yn unig iawn gan nad ydyn nhw’n aml yn ddigon da i gynnal cyfeillgarwch a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol arferol, yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol a’r rhai sydd yng nghamau cyntaf y salwch. Yn ogystal â hyn, does gan y proffesiwn meddygol yn aml ddim llawer o ddealltwriaeth, gwybodaeth a chymorth.
Gall ymuno â grŵp cefnogi hunangymorth:
- ddarparu dealltwriaeth a chefnogaeth foesol gan bobl a all fod wedi cael profiadau tebyg
- hyrwyddo derbyniad (bod eich profiadau’n ‘normal’ – dydych chi ddim yn od neu’n ffrîc) a’r cymhelliant i gymryd y cam nesaf ar y daith i adferiad
- rhoi teimlad hanfodol o gymuned a pherthyn – mae gwybod nad ydych ar eich pen eich hun yn deimlad pwerus
- darparu hwyl a chwerthin
- esmwytháu unigrwydd emosiynol
- rhoi’r grym i chi fod yn gyfrifol am reoli’ch cyflwr
- darparu gwybodaeth am eich salwch, strategaethau ymdopi, triniaethau posibl, adnoddau cymunedol ac unrhyw beth arall sy’n effeithio ar eich lles
- rhoi teimlad o gyflawniad pan fyddwch yn gallu helpu rhywun arall
- darparu cryfder mewn niferoedd a chael mwy o effaith wrth godi arian neu ymgyrchu