Amcangyfrifir y bydd 60,000 o bobl yng Nghymru, fydd yn colli’u hawl i fudd-daliadau anabledd ar ôl newidiadau i’r system budd-daliadau, yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyflogaeth addas, yn ôl ymchwil newydd.

Mae adroddiad Prifysgol Sheffield Hallam, Tackling Worklessness in Wales, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu cynllun creu swyddi gwerth £100m i helpu i lenwi’r bwlch cyflogaeth. Mae graddfa cylogaeth Cymru yn waeth o lawer na rhannau mwy cyfoethog Prydain.

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.