Mae’r Athro Malcolm Harrington wedi dechrau ail alwad am dystiolaeth  (cwestiynau’n cychwyn ar dudalen 10) ar gyfer ei adolygiad annibynnol  o’r WCA, y prawf a ddefnyddir i asesu hawlwyr Lwfans Gwaith a Chefnogaeth (ESA)

Mae’r athro Harrington eisiau eich barn a thystiolaeth am:

  • effaith rhoi ar waith ei set cyntaf o argymhellion (summary p9-11)
  • yr asesiad wyneb-wrth-wyneb gan Atos
  • pa waith pellach sydd ei angen mewn adolygiadau yn y dyfodol

Dyddiad cau yr alwad am dystiolaeth ydi 16fed o Fedi 2011.  Bydd Adolygiad Annibynnol terfynol yn cael ei osod gerbron San Steffan a’i chyhoeddi cyn diwedd 2011.  Gellwch gyfrannu i ymateb WAMES drwy gysylltu â Sylvia.

 

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.