Bu i astudiaeth Americanaidd, a gafodd ei gyhoeddi yn Science ar 1af o Orffennaf, fethu â darganfod tystiolaeth o XMRV a MLV’au yn samplau gwaed pobl hefo CFS gyda deiagnosis o XMRV.

Awgrymai’r hyn a fu iddynt ddarganfod y byddai sefydlu haint llwyddiannus o MLV yn anhebygol mewn bodau dynol. Canfyddasant hefyd ddilyniannau MLV mewn adweithyddion labordai masnachol, a ddangosai, yn eu tŷb hwy, y tebygolrwydd fod tystiolaeth flaenorol yn cysylltu XMRV a MLV’au i CFS wedi’i achosi gan lygriad labordy.

Mae canlyniadau astudiaeth Americanaidd arall yn yr un cylchgrawn yn awgrymu fod cysylltiad XMRV hefo afiechyd dynol yn bodoli oherwydd llygredd o samplau dynol gyda feirws a ddaeth o’r ailgyfuniad o ddau brofeirws yn ystod tramwyfo tiwmor mewn llygod. Dangosodd yr olofn olygyddol bryder.

Mae erthygl yn y cylchgrawn Nature yn gofyn os wnâ’r darganfyddiadau negyddol diweddaraf hyn gael effaith niweidiol ar ymchwil pellach i CFS ac addrodda fod awduron yr astudiaeth gwreiddiol a ddarganfyddodd XMRV wedi gwrthod tynnu’n ôl eu darganfyddiadau.

 

 

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.