Mae tri elusen, Action for ME, yr ME Association a ME Research UK, a chyfrannydd preifat wedi ymuno i ariannu’r banc-bio o samplau gwaed dynol cyntaf yn y DU sy’n ymchwilio i’r achosion o Myalgic Encephalomyelitis/Syndrom Llesgedd Cronig (ME/CFS).
Mi fydd y banc-bio wedi’i leoli yn ysbyty y Royal Free yn Llundain lle bydd yn medru cysylltu hefo cyfleusterau ymchwil eang yr UCL (University College London).